Marnus van der Merwe wedi’i enwi yng ngharfan y Springboks am yr Haf

Rob LloydNewyddion

Y bachwr y Scarlets Marnus van der Merwe sydd wedi cwblhau tymor cyntaf arbennig yn Ngorllewin Cymru trwy gael ei enwi yng ngharfan ymarferol 54-dyn De Affrica ar gyfer rowndiau cyntaf y tymor rhyngwladol, sydd yn cychwyn ar Fehefin 28 yn erbyn y Barbariaid.

Mae Marnus, a gafodd ei enwi yn nhîm XV Elite y URC wythnos hon yn dilyn ymgyrch anhygoel i’r Scarlets, wedi’i enwi fel un o’r naw chwaraewr di-gap yng ngharfan Rassie Erasmus.

Bydd y chwaraewyr yn cwrdd yn Johannesburg ar ddydd Sul ac yn cychwyn eu paratoadau ar ddydd Llun.

Bydd y Springboks yn cwrdd â’r Barbariaid yn ei gêm cyntaf ar dir De Affrig yn Cape Town ar ddydd Sadwrn, Mehefin 28 lle fyddant yn chwarae am Gwpan Qatar Airways.