Dros y misoedd diwethaf ry’n ni wedi bod yn gofyn i chi am adborth am ein profiad diwrnod gêm ym Mharc y Scarlets ac ry’n ni’n falch iawn cadarnhau ein bod ni wedi gwrando, ac wedi gwneud newidiadau cyffrous hefyd!
Fe fydd gyda ni mwy o opsiynau bwyd yn y Parc, opsiynau iachus ac eang, partneriaid newydd a llawer mwy!
Bwyd
- Bwyd iach wedi ei baratoi gan ein cogyddion, o dan arweiniad ein Prif Gogydd Nick Bevan
- Opsiynau cyffrous i lysieuwyr a figaniaid
- Opsiynau heb glwten
- Opsiynau halal
Pob stand;
- Wraps Fajita gyda detholiad o lenwadau
- Nachos Chilli gyda dethoiad o gynhwysion
- Cawl ffres gyda rôl
- Pei Celtic Pride
Stand y Gogledd a Gorllewin;
- Wedi partneri gyda Cwm Farm a Crazie Kiosks
- Mae’r ddau sy’n gysylltiedig yn fwy cyffredin â Phentref y Cefnogwyr wedi ehangu i Stand y Gogledd a’r Gorllewin gan gynnig dewis eang o fwydydd cartref blasus o’r safonau uchaf
Pentref y Cefnogwyr;
- Cwm Farm
- Crazie Crepes
- Mr Sweet’s Sweet Shop
Taliadau;
Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau y byddwn ni yn awr yn derbyn taliadau cardiau yn y bariau.
*Mae’r lluniau at ddibenion darlunio yn unig