Ry’n ni bron yn barod at y penwythnos, mae’n Ddiwrnod Cwrw Rhyngwladol, ac ry’n ni’n barod i ddathlu!
Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer ein gêm yn erbyn DHL Stormers, Gwener 10fed Hydref, cic gyntaf 7.45pm.
Fe fydd ein gêm nos Wener cyntaf y tymor yn ddathliad hwylus ar thema Oktoberfest, gyda band Oompah yn chwarae ym Mar Tanner Banc cyn y gêm, yn ogystal â sialens ar y cae yn ystod hanner amser i ennill gwobrau ar thema Oktoberfest (i’r oedolion yn unig!).
Ymunwch â ni am noson llawn hwyl, cyffro’r gêm fyw a digon o gwrw traddodiadol. Dewch boed eich bod chi’n gefnogwr brwd, neu’n awyddus i fwynhau’r cwrw a’r bratwurst.
Gallwch brynu tocynnau pris cynnar sy’n dechrau am £5 i ieuenctid, £14 i oedolion ifanc, £19 pris consesiwn a £22 i oedolion.
Mae prisiau cynnar ar gael hyd at wythnos cyn y gêm.
Prynnwch eich tocynnau YMA
Mae tocynnau tymor hefyd ar gael i’w prynu ac adnewyddu ar gyfer tymor 2025-26.
Dewch Scarlets, hen ac ifanc, dewch i’r gâd! Mae’n hysbryd ar dân ac mae’n amser i ni ddod at ein gilydd ar gyfer tymor 2025-26!
Boed eich bod yn ddaliwr tocyn tymor ers cyfnod, neu’n ymuno â ni am y tro cyntaf, mae tymor nesaf yn addo bod yn un gwefreiddiol o dan arweiniad arwyr ifanc a chyffrous y Scarlets.
Mae prisiau’n cychwyn am £160 i oedolion a £10 i blant.