Gostyngiad ar bris eich tocyn tymor wrth gyflwyno ffrind

Rob LloydNewyddion

Mae Tocynnau Tymor 2025-26 ar gael nawr ar gyfer tymor 2025-26 ac mae bron i 3,000 ohonoch yn barod wedi dangos eich cefnogaeth. 

Mae seddi tocyn tymor presennol yn ddiogel tan 29ain Mehefin, ac yna fe fydd pob sedd yn cael eu rhyddhau i werthiant cyffredinol ddydd Llun 30ain Mehefin.

Peidiwch anghofio adnewyddu cyn y dyddiad rhyddhau er mwyn sicrhau eich sedd am dymor cyffrous arall o rygbi ym Mharc y Scarlets. 

Os ydych yn ddaliwr Tocyn Tymor 202-26 ac yn cyflwyno cwsmer newydd pan fyddwch chi’n adnewyddu ar gyfer tymor 2025-26, fe fyddwch chi’ch dau yn derbyn £20 oddi ar bris eich Tocyn Tymor. 

Er mwyn derbyn y gostyngiad, fe fydd yn rhaid i’r cwsmer newydd

  • fod yn newydd i system Tocynnau Tymor y Scarlets
  • heb fod yn ddaliwr tocyn tymor dros y dair mlynedd diwethaf
  • dros 16 mlwydd oed 

I adnewyddu, cliciwch yma

Os hoffech gyflwyno ffrind, cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39 neu ebostiwch [email protected]