Y maswr rhyngwladol Sam Costelow yw’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
Mae’r chwaraewr 24 oed yn barod wedi chwarae 67 o gemau a sgori 420 o bwyntiau i’r Scarlets ers gyrraedd o Leicester Tigers yn 2020.
Mae Sam, sydd wedi ennill 18 o gapiau i Gymru, wedi dychwelyd o anaf ysgwydd yn ddiweddar i helpu arwain y Scarlets i fuddufoliaeth yn erbyn cewri y URC Leinster ac mae’n edrych ymlaen at barhau i adael ei farc ar y cae dros y tymhorau i ddod.
“Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Scarlets am y cyfle,” dywedodd.
“Mae gyda ni grwp da yma, ac i ni’n symud ymlaen yn dda yn y gystadleuaeth a dyma lle dwi am fod ar hyn o bryd. Mae gyda ni llawer o bethau i ddysgu ers i’r tymor ddechrau, ond mae’r flwyddyn wedi bod yn un dda.
“Mae delio ag anaf ddim yn hawdd, chi eisiau chwarae gymaint o rygbi ag sy’n bosib, roedd bod nôl yn chwarae gyda fy ffrindiau yn erbyn Leinster, yn chwarae o flaen y dorf eto yn wych.
“Mae’r gefnogaeth i ni’n cael yma yn golygu cymaint i ni fel chwaraewyr. Er iddi fod yn ‘cliché’, nhw yw’r 16 dyn ar y cae ac mae’r canu a gwaeddu yn rhoi’r hwb yna i ni, mae’n creu awyrgylch anhygoel ac yn dod ag egni i ni ar y cae.”
Wrth edrych ymlaen at y ddau rownd nesaf yn y URC yn Ne Affrica, ychwanegodd Sam: “Does dim amheuaeth am faint o her sydd o’n blaenau, ond i ni wedi trafod hyn yn yr wythnos, ac mae hyn y gyfle i ni ysgrifennu hanes ein hunain a symud ymlaen fel tîm.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae’n wych bod Sam wedi arwyddo cytundeb newydd. Mae’n arweinydd o fewn y grwp, mae ganddo’r bresenoldeb yna ar ac oddi ar y cae ac roedd hi’n braf ei weld nôl ar y cae yn erbyn Leinster ar ôl delio gyda’i anaf am ryw pedair mis.
“Mae bob un ohonom yn ymwybodol o’i botensial, yn ond 24 oed, mae ganddo llawer o brofiad yn barod, i ni ac ar lefel rhyngwladol. Mi fydd ganddo rhan fawr i’w chwarae dros y tymhorau nesaf.”
Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn dilyn newyddion y bydd y mewnwr Dane Blacker yn ailymuno â’r Scarlets o’r Dreigiau y haf hwn.
Macs Page, Joe Roberts, Tomi Lewis, Eddie James, Taine Plumtree a Kemsley Mathias sydd hefyd wedi cytuno ar gytundebau newydd; y chwaraewr rhyngwladol Joe Hawkins o Exeter Chiefs a chlo Cymru Jake Ball sydd hefyd yn ailymuno a’r clwb.