Bydd y Scarlets yn herio’r Dreigiau mewn gêm gyfeillgar wrth i baratoadau’r tymor newydd fynd yn ei flaen cyn cychwyniad y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Mae carfan 2025/26 wedi dechrau ymarferion wythnos yma ym Mharc y Scarlets, gyda chroeso cynnes i wynebau newydd y tîm.
Bydd y Scarlets yn teithio ir dwyrain i herio’r Dreigiau yn Rodney Parade ar ddydd Sadwrn, Medi 13 (cic gyntaf am 3yp) am gêm gyfeillgar.
Mae’r gêm wedi’i drefnu i’w chwarae pythefnos cyn gêm gartref agoriadol y bencampwriaeth ym Mharc y Scarlets yn erbyn Munster ar ddydd Sadwrn 27 o Fedi. cic gyntaf 5.30yp).
Mae’r Dreigiau yn trefnu thema teuluol ar gyfer y gêm gyfeillgar gyda llawer o ddigwyddiadau yn cael ei chynnal o amgylch y stadiwm. Gallwch ddarllen mwy o fanylion yma www.dragonsrfc.wales.
Mae’r tocynnau ar gyfer y gêm ar werth NAWR. £12 i oedolion, £6 i oedolion ifanc (17-25) a £1 am docynnau i oedolion dros 60 oed a ieuenctid o dan 16.
Scarlets fans looking to enjoy a derby day out in the East and supporting the new look Scarlets team can buy now direct from Dragons by visiting www.eticketing.co.uk/dragons/or by calling 01633 670690 between 10am and 4pm during the week.