Scarlets yn datgelu Cit Cartref am dymor 2025-26

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets yn falch iawn i ddatgelu’r cit cartref VX3 newydd am dymor 2025-26 – teyrnged i un o ymgyrchoedd mwyaf cofiadwy y clwb.

Gyda Gavin Griffiths Group wedi’i enwi fel un o’r prif noddwyr eto eleni, mae’r cit yn adleisio’r crys a wisgwyd yng ngemau buddugol Cynghrair Celtaidd 2003-04 gyda chrys sy’n cyfuno treftadaeth y clwb â pherfformiad modern.

Rydym hefyd yn dychwelyd i wisgo siorts gwyn a wisgwyd y tymor yna ac yn ystod adeg Parc y Strade.

Mae VX3 a’r Scarlets wedi cytuno ar bartneriaeth aml-flwyddyn sy’n gweld VX3 yn cymryd drosodd gwefan y siop a’r gweithrediadau manwerthu ym Mharc y Scarlets a bydd cyfle gan gefnogwyr i brynu’r cit cartref o siop y clwb o fore Mercher (10yb) ac ar-lein YMA

Dywedodd Pennaeth Masnach y Scarlets Garan Evans: “Rydym wrth ein bodd i ddatgelu’r cit yma, un sydd yn talu teyrnged i tymor arbennig yn ein hanes, ac un a fydd yn cario atgofion da i’n cefnogwyr.

“Braf yw cydweithio gyda VX3 i greu y dyluniad yma ac rydym yn edrych ymlaen i lansio’r cit oddi cartref o fewn yr wythnosau nesaf.

“Rydym hefyd wrth ein bodd i barhau’r bartneriaeth gyda Gavin Griffiths Group. Mae’n wych i gael busnes angerddol o’r ardal fel ein prif noddwr ar flaen y crys ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y bethynas hwn trwy groesawu Gavin, Kate a’r tîm i Barc y Scarlets am y tymor newydd.”

Dywedodd Gavin Griffiths, Cyfarwyddwr Gavin Griffiths Group: “Trwy noddi’r Scarlets am yr ail dymor yn olynol rydym yn cryfhau ein ymrwymiad i’r clwb ac i’r rhanbarth yng Ngorllewin Cymru. Ar rhan fy wraig Kate, y tîm a finnau, rydym yn edrych ymlaen at barhau’r bartneriaeth am flwyddyn arall.

“Yn ogystal ag ymddangos ar flaen y crys, rydym hefyd yn bartneriaid gwastraff ac ailgylchu Parc y Scarlets. Mae ein dull gweithio o leihau gwastraff i safleoedd tirlenwi a chyfrannu at yr economi gylchol wrth wraidd popeth a wnawn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Scarlets yn yr hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn dymor llwyddiannus.

Hoffwn hefyd ddiolch i’n partneriaid cit Ceir Cawdor, Cadog Homecare, TAD Builders, Cyfrifwyr LHP, CK Foodstores, Morgan Marine, Dyfed Steels, Purus, Lloyd & Gravell, LBS, Sterling Construction, Castell Howell a Gravells.

Bydd chwaraewyr y Scarlets yn y siop ar ddydd Mercher am 10yb ac 1.15yp i gwrdd â chefnogwyr.