Dewch i ymuno â ni ym Mharc y Scarlets, ddydd Sadwrn 27ain Medi, wrth i ni groesawu Munster yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Unedig a dangos eich cefnogaeth i rygbi yng ngorllewin Cymru.
Helpwch ni i godi’r to wrth i filoedd o leisiau ddod ynghyd i gyd-ganu cyn y gic gyntaf, tocynnau ar gael yma
Mae llond lle o bethau wedi’u trefnu ar gyfer y diwrnod, gan ddechrau gyda gŵyl rygbi adran gymunedol y Scarlets ar y cae ymarfer, cyn i’r tenor Trystan Llyr Griffiths ganu Sosban Fach ac Yma o Hyd cyn y gic gyntaf yn y stadiwm.
Gwnewch yn siwr eich bod chi yn eich sedd / yn sefyll yn eich hoff le ar y teras erbyn 5pm i ymuno â’r lleisiau ac i gael cyfle i ennill gwobrau arbennig.
Trefn y dydd
09:00 Swyddfa docynnau ar agor
10:00 Siop VX3 yn agor
11:30 Cofrestru ar gyfer yr ŵyl rygbi ar agor
11:30 Coffi a byrbrydau ar gael ger y cae ymarfer
12:00 Yr ŵyl rygbi yn dechrau
13:00 Gorymdaith Achubwch y Scarlets yn dechrau o Barc Dŵr y Sandy
13:30 Lluniau’r timau yn yr wyl rygbi gyda chwraaewyr y Scarlets ar y cae ymarfer
14:30 Pentref y Cefnogwyr yn Arena FSG yn agor
15:30 Lletygarwch yn agor
16:00 Sesiwn llofnodi gyda chwaraewyr y Scarlets, lleoliad i’w gyhoeddi
16:00 Lluniau timau TAG hanner amser gyda chwaraewyr y Scarlets ym Mhentref y Cefnogwyr
16:00 Gatiau i’r eisteddle yn agor
17:00 Gwnewch yn siwr eich bod chi yn eich sedd!
17:05 Cyfle i ennill gwobrau, mae’n rhaid i chi fod yn y stadiwm i gael cyfle i ennill!
17:10 Gorymdaith cyn y gêm yn dechrau
17:15 Trystan Llyr Griffiths yn arwain y canu
17:30 Cic gyntaf Scarlets v Munster
18:10 Hanner amser a TAG hanner amser
19:15 Danica yn canu’n fyw ym Mar Tanner Banc
20:00 Sesiwn Holi Hallt gydag Albert van den Berg ym Mar Tanner Banc
20:15 Danica yn canu’n fyw ym Mar Tanner Banc
20:30 Bws Gwennol i ganol tref Llanelli
21:00 Bws gwennol olaf yn gadael Parc y Scarlets (ac yn dychwelyd i Gaerfyrddin)
Mae tocynnau i’r gêm ar gael nawr, cliciwch yma