Scarlets v Munster: Prisiau rhatach yn dod i ben dydd Gwener

GwenanNewyddion

Helpwch ni i godi’r to ym Mharc y Scarlets wrth i filoedd o leisiau ddod ynghyd ddydd Sadwrn 27ain Medi, cic gyntaf 17:30.

Ymunwch â ni i ddangos eich cefnogaeth at rygbi yng ngorllewin Cymru wrth i ni ddechrau ein tymor yn erbyn Munster ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig.

Mae llond lle o bethau wedi’u trefnu ar gyfer y diwrnod, gan ddechrau gyda gŵyl rygbi adran gymunedol y Scarlets ar y cae ymarfer, cyn i’r tenor Trystan Llyr Griffiths ganu Sosban Fach ac Yma o Hyd cyn y gic gyntaf yn y stadiwm.

Cliciwch yma i weld amserlen y dydd.

Mae tocynnau rhatach ar gael tan 23:59 Gwener 19eg Medi.

I brynu tocynnau i’r gêm ewch yma

Os hoffech ddangos eich cefnogath ac ymuno â theulu’r Scarlets fel daliwr tocyn tymor, nid yw’n rhy hwyr! Cliciwch yma am wybodaeth pellach.

Gwnewch yn siwr eich bod chi yn y Parc ddydd Sadwrn 27ain Medi i ddangos eich cefnogaeth.