Yr asgellwr Tomi Lewis bydd yn ymddangos am y tro cyntaf y tymor hwn i’r Scarlets yng ngêm rownd 12 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Ulster yn Stadiwm Kingspan (17:15; S4C, Premier Sports).
Nid yw Lewis wedi chwarae ers rhwygo’i Achilles yn y fuddugoliaeth Dydd y Farn ym mis Mehefin.
Mae wedi’i enwi o fewn ochr sydd yn dangos chwe newid ers y golled yn erbyn Munster yn Limerick.
Lewis sydd yn dod ymlaen i’r asgell chwith, gyda Macs Page – a groesodd am gais unigol arbennig yn erbyn dynion Munster – ar yr asgell dde.
Aelod o garfan Cymru Joe Roberts a’i gyd chwaraewr rhyngwladol Johnny Williams sydd yn parhau yng nghanol cae, yn ogystal â Ioan Lloyd a Gareth Davies fel ein haneri.
Mae yna rheng flaen newydd wrth i Alec Hepburn, Ryan Elias a Sam Wainwright cyfuno. Elias sydd wedi’i enwi’n gapten yn absenoldeb Josh Macleod (hamstring).
Alex Craig a Sam Lousi sy’n cychwyn yn yr ail reng, wrth i Max Douglas newid i flaenasgellwr ochr dywyll o fewn rheng ôl sy’n cynnwys Dan Davis a Jarrod Taylor.
Sam O’Connor a Jac Price sydd yn dod ymlaen i’r fainc, yn ogystal â Gabe Hawley sydd yn cymryd lle Archer Holz.
Tîm y Scarlets i chwarae Ulster Rugby yn Stadiwm Kingspan ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 1 (5.15pm; S4C & Premier Sports)
15 Ioan Nicholas (Pontyberem); 14 Macs Page (Crymych), 13 Joe Roberts (Porth Tywyn), 12 Johnny Williams (Rams), 11 Tomi Lewis (Gwernyfed); 10 Ioan Lloyd (CRICC), 9 Gareth Davies (Castell Newydd Emlyn); 1 Alec Hepburn (Henley Hawks), 2 Ryan Elias (Carmarthen Athletic; capt), 3 Sam Wainwright (Rhyl), 4 Alex Craig (Stewarty) 5 Sam Lousi (Bay Roskill Vikings), 6 Max Douglas (Manly Marlins), 7 Dan Davis (Llandeilo), 8 Jarrod Taylor (Western Province)
Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe (Hoërskool Nelspruit), 17 Sam O’Connor (Dorchester), 18 Gabe Hawley (Hadleigh), 19 Jac Price (Carmarthen Quins),20 Vaea Fifita (Lions, Tonga), 21 Archie Hughes (Dinbych y Pysgod), 22 Charlie Titcombe (Stanford), 23 Steff Evans (Felinfoel).
Ddim ar gael oherwydd anaf
Josh Macleod, Sam Costelow, Ben Williams, Taine Plumtree, Archer Holz, Harri O’Connor, Josh Morse.
Ddim ar gael oherwydd dyletswyddau rhyngwladol
Ellis Mee, Kemsley Mathias, Tom Rogers, Blair Murray, Eddie James, Henry Thomas.