Scarlets yn cyhoeddi HCR Law fel noddwr Cyfres Cinio Busnes

Rob LloydNewyddion

Mae Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi HCR Law fel prif noddwr cyfres Cinio Busnes y Scarlets, gyda’r bartneriaeth yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol yn nigwyddiad cyntaf y gyfres Heddiw (Mercher, 17eg Medi).

.Mae’r gyfres Cinio Busnes yn cynnig cyfle i aelodau o rwydwaith masnachol y Scarlets i ddod ynghyd i drafod, clywed gan arweinwyr lleol, a derbyn newyddion gan y clwb.

Mae’r digwyddiadau wedi datblygu yn ran allweddol o galendr busnes y Scarlets, gan greu perthynas gref rhwng y clwb a’r gymuned busnes ehangach.

Dywedodd Garan Evans, Pennaeth Masnachol y Scarlets: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi HCR law fel prif noddwr ein cyfres Cinio Busnes. Bwriad y digwyddiadau yma yw dod â phobl ynghyd, adeiladu perthnasau a gwerth go iawn i’n partneriaid. Mae cael cwmni fel HCR Law yn cydweithio â ni yn dangos datblygiad y gyfres ac ry’n ni’n gyffrous iawn am yr hyn y gallwn wneud gyda’n gilydd.”

Ychwanegodd David King, Partner yn HCR Law: “Rydym yn falch iawn o fod ynghlwm â chymuned busnes y Scarlets. Mae adeiladu cysylltiadau a dangos ein hymrwymiad i arweinwyr lleol yn rhan allweddol o’n busnes, yn enwedig wrth i ni ddathlu pum mlynedd ers agor ein swyddfa yng Nghaerdydd pum mlynedd yn ôl.

“Bwriad y gyfres yma yw creu cysylltiad a momentwm – gan gynorthwyo sefydliadau eraill i wneud yr hyn y maent yn ei wneud yn dda gyda’r bobl gorau yn yr ystafell, ac ry’n ni’n falch iawn o fod yn rhan o hyn. Mae’n gyfle cyffrous i ni weld sut all rygbi ein hysbrydoli ni, a sut y gallwn ni fel noddwyr ac arweinwyr busnes chwarae rôl gefnogol yn natblygiad y gêm ar bob lefel.”

Cysylltwch â [email protected] am wybodaeth Bellach am Cyfres Cinio Busnes neu am gyfleoedd nawdd gyda’r Scarlets.