Mae Bwrdd y Scarlets yn falch iawn o gadarnhau bod y clwb wedi dod i gytundeb ar gyfer partneriaeth strategol newydd gyda House of Luxury LLC (HOL), asiantaeth asedau moethus ryngwladol sydd â phresenoldeb cynyddol mewn chwaraeon byd-eang.
O dan delerau’r cynnig, mae adran fuddsoddi chwaraeon ac adloniant ymroddedig HOL yn bwriadu caffael cyfran fwyafrifol yn y Scarlets a bydd yn cymryd arweinyddiaeth weithredol oddi ar y cae rygbi mewn partneriaeth â’r Bwrdd presennol wedi’i harwain gan etifeddiaeth a threftadaeth unigryw’r clwb.
Mae House of Luxury (HOL) yn asiantaeth asedau moethus byd-eang wedi ei leoli yn yr Unol Daleithiau sydd tu ôl i werthiannau nodedig tai crand, chwaraeon, eitemau modurol a chasgliadau prin www.houseofluxurygroup.com gydag Adran Chwaraeon ac Adloniant bwrpasol ac mae wedi cadarnhau ei bwriad i gaffael cyfran reoli o 55% yn y Scarlets.
Mae’r cytundeb a gytunwyd mewn egwyddor gyda Bwrdd y Scarlets yr wythnos hon yn cynnwys rhoi rheolaeth o weithredoedd oddi ar y cae y clwb i HOL yn effeithiol ar unwaith. Bydd partneriaid newydd y clwb yn cymryd dros y cyfrifoldebau ariannol cyfredol a chyfrifoldeb am dwf masnachol a gweledigaeth strategol yn y dyfodol o dan arweiniad Bwrdd y Scarlets wrth weithio tuag at drafodiad ecwiti llawn.
Daw partneriaeth HOL ar adeg hollbwysig wrth i Undeb Rygbi Cymru (URC) ystyried strwythur ei dimau proffesiynol yn y dyfodol ar ôl 2027 gydag angen holl bwysig am sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth strategol ar gyfer y rhanbarth. Bydd y Scarlets yn parhau i weithio’n adeiladol gyda URC ar yr
adolygiad strwythurol.
Mae’r bartneriaeth newydd wedi’i seilio ar etifeddiaeth rygbi gyfoethog y Scarlets ac wedi’i gyrru gan yr uchelgais i dyfu’r clwb a diogelu ei ddyfodol. David Moffett, cyn Brif Weithredwr URC a Undeb Rygbi Seland Newydd, yw pennaeth adran chwaraeon ac adloniant HOL ac mae e’n dod â phrofiad helaeth o arweinyddiaeth rygbi. Bydd yn cael ei gefnogi gan dîm o gyfarwyddwyr o’r radd flaenaf sy’n dod â gwybodaeth, gweledigaeth a doethineb am rygbi.
- Dan Biggar, cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru sydd wedi ennill 112 o gapiau
- Andy Golding, strategydd brand blaenllaw mewn chwaraeon
- Leanne Batts, arweinydd arloesi ar gyfer Rygbi Seland Newydd a strategydd chwaraeon digidol
Bydd y bartneriaeth fuddsoddi newydd yn dod â:
- Sefydlogrwydd ariannol ar unwaith gyda House of Luxury yn cymryd yr holl rwymedigaethau cyfredol
- Arweinyddiaeth strategol ac arbenigedd HOL i gefnogi twf masnachol a helpu i lunio strategaeth y dyfodol yn ystod cyfnod pontio digynsail i Rygbi Cymru
- Buddsoddiad ychwanegol mewn profiad cefnogwyr, llwybrau chwaraewyr a phartneriaethau byd-eang
- Arweinyddiaeth wrth lywio diwygio cyfreithiol, strwythurol a chystadleuol o fewn rygbi Cymru
- Strategaeth a gweledigaeth a rennir gyda Bwrdd y Scarlets i adeiladu diwylliant perfformiad uchel hirdymor ar ac oddi ar y cae a pharhau â chyfraniad sylweddol y clwb i’r economi, y gymdeithas a’r diwylliant lleol ledled rhanbarth gorllewin Cymru.
Dywedodd Simon Muderack, Cadeirydd y Scarlets: “Mae’r Scarlets yn glwb rygbi sydd wedi bod ar flaen y gad ym myd rygbi Cymru ac yn rhan annatod o gymuned gorllewin Cymru ers dros canrif a hanner. Rydym i gyd yn falch iawn o’r hyn y mae’r clwb hwn yn ei gynrychioli a byddwn yn parhau i ddiogelu’r etifeddiaeth honno. Mae’r bartneriaeth hon yn ddechrau cyfnod newydd i’n clwb, gan gryfhau ein safle gyda buddsoddiad newydd, syniadau newydd ac uchelgais a rennir i ddychwelyd y Scarlets i frig rygbi Ewropeaidd.
“Mae’r cytundeb newydd gyda HOL yn rhoi’r Scarlets yn y sedd flaen wrth edrych at eu dyfodol eu hunain wrth i ni weithredu’n feiddgar i symud ymlaen gyda phartner a fydd yn ychwanegu adnoddau ac uchelgais sylweddol. Yn hollbwysig, mae’n galluogi dyfodol lle bydd y Scarlets yn parhau i chwarae yn Llanelli, yn cadw hunaniaeth gref y Scarlets, ac yn cynrychioli gorllewin Cymru gyfan gyda balchder.”
Dywedodd Kirsti Jane, Prif Weithredwr House of Luxury (HOL): “Dyma un o’r clybiau rygbi mwyaf enwog yn y byd ac rydym yn credu y dylai fod yn cystadlu ac yn ennill ar y lefel uchaf. Rydym yma i wneud i hynny ddigwydd a helpu i yrru llwyddiant y Scarlets yn y dyfodol a diogelu ei hunaniaeth a’i hetifeddiaeth unigryw.”
Dywedodd Simon Kozlowski, Prif Swyddog Profiad HOL: “Nid ydym yma i gadw treftadaeth rygbi anhygoel y Scarlets yn unig – rydym yma i drawsnewid y clwb hwn yn beiriant pwerus ar gyfer ffyniant cymunedol. Bydd y bartneriaeth hon yn creu swyddi, yn denu buddsoddiad rhyngwladol i Orllewin Cymru, ac yn darparu profiad anhygoel i’n cefnogwyr. Mae ein gweledigaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i rygbi i greu gwerth parhaol i’r rhanbarth cyfan.”
ELFENNAU ALLWEDDOL CYTUNDEB Y BARTNERIAETH NEWYDD
- Parhad i hunaniaeth y Scarlets, gyda’r un bathodyn, lliwiau, stadiwm a gwerthoedd.
- Parhad i egwyddorion perchnogaeth cefnogwyr gyda pherthynas uniongyrchol â chefnogwyr yn cael ei chynnal.
- Diogelu uniondeb diwylliannol, gan gynnwys hyrwyddo’r iaith Gymraeg, cysylltiadau cymunedol a threftadaeth y clwb.
- Parhad Parc y Scarlets fel cartref i’r tîm gyda chynlluniau i gynyddu defnydd y stadiwm ac ymgysylltiad cefnogwyr.
Gwybodaeth am House of Luxury LLC
Mae House of Luxury yn grŵp buddsoddi yn yr Unol Daleithiau sydd ag arbenigedd byd-eang mewn asedau gwerth uchel, gan gynnwys chwaraeon, eiddo tiriog a modurol. Mae ei adran chwaraeon ac adloniant yn buddsoddi mewn timau sydd heb gyrraedd eu llawn potensial, gan eu cefnogi trwy gyfalaf, arweinyddiaeth a rhagoriaeth weithredol. Mae pencadlys y busnes ym Montana. Yn 2025, enwyd House of Luxury LLC ar restr y 50 busnes sy’n tyfu gyflymaf gan WPO (Sefydliad Llywyddion Menywod) a JP Morgan Chase.
Gwybodaeth am y Scarlets:
Mae’r Scarlets yn olrhain ei wreiddiau i Glwb Rygbi Llanelli (a sefydlwyd ym 1872) ac mae’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT a Chwpan Pencampwyr Investec (EPCR). Mae’r Scarlets yn cynrychioli tair sir falch yng ngorllewin Cymru ac mae wedi’i leoli yn stadiwm eiconig Parc y Scarlets sydd â 14,870 o seddi, gan wasanaethu mwy na 20,000 o bobl ifanc bob blwyddyn trwy ei raglenni cymunedol llwyddiannus.
Mae bywgraffiadau mwy manwl a phroffiliau LinkedIn ar gyfer Aelodau Bwrdd HOL yma:
www.linkedin.com/company/houseofluxury-group/
- David Moffett
- Dan Biggar
- Andy Golding
- Leanne Batts
Bwrdd Cyfarwyddwyr y Scarlets: Simon Muderack (Cadeirydd), Jon Daniels, Tonia Antoniazzi AS, Philip Davies, Emyr Wyn Evans, Huw Evans, Sean Fitzpatrick, Ron Jones, Rupert Moon, Derek Quinnell, Nigel Short, Glan Wise, Brian Jones.