Yr asgellwr Steff Evans sydd yn dychwelyd o anaf hirdymor ar gyfer gêm y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Caeredin ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn (3yp; Premier Sports).
Mae’r chwaraewr rhyngwladol 30 oed wedi gwella o anaf Achilles a gafwyd yn ystod gêm Benetton ym mis Mawrth diwethaf i gymryd ei le ymysg yr olwyr.
Gyda pump o’r olwyr ar ddyletswyddau’r Chwe Gwlad gyda Chymru, mae Dwayne Peel wedi gwneud pum newid tu ôl i’r sgrym yn dilyn y fuddugoliaeth penwythnos diwethaf yng Nghwpan Her Ewrop yn erbyn RC Vannes.
Mae Ioan Nicholas yn dychwelyd i grys rhif 15, Evans sydd yn cychwyn ar yr asgell chwith, wrth i’r chwaraewr 21 oed Jac Davies dod ymlaen i’r asgell dde am ei ymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth.
Macs Page fydd yn bartner i Johnny Williams yng nghanol cae, sydd wedi gwella o anaf i fys ei droed, tra bod Ioan Lloyd a Gareth Davies yn parhau fel ein haneri ac yr unig chwaraewyr i barhau yn ei safleoedd o benwythnos diwethaf.
Yn y rheng flaen…
Mae yna newid ar y pen tynn gydag Archer Holz yn cymryd safle Henry Thomas – sydd i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol. Mae chwaraewr Awstralia A Holz yn ymuno ag Alec Hepburn a Marnus van der Merwe yn y rheng flaen.
Yn y ail reng, Alex Craig sydd wedi’i enwi wrth ochr Sam Lousi, wrth i Max Douglas cychwyn yng nghrys rhif 6. Mae hynny’n golygu i Vaea Fifita newid i wythwr a’r capten Josh Macleod parhau ar yr ochr agored.
Ar y fainc, Sam O’Connor, Shaun Evans, Gabe Hawley, Jac Price, Taine Plumtree a Jarrod Taylor sydd ar gael i’r blaenwyr gyda Efan Jones a Charlie Titcombe i’r olwyr.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae hyn bob amser yn rhan ddiffiniol o’r tymor a bydd y tri thîm y byddwn yn chwarae nesaf, sef Caeredin, Munster ac Ulster i gyd yn cael eu heffeithio gan rygbi rhyngwladol yn yr wythnosau nesaf. Mae’n mynd i fod yn gyfnod mawr i ni.
“Mae colli chwe chefnwr i Gymru yn ogystal â’r anaf i Sam yn her, ond mae’n wych cael rhywun o brofiad ac ansawdd Steff yn ôl yn dilyn ei anafiad a dwi’n edrych ymlaen at weld Jac Davies yn mynd ymlaen am ei ddechreuad URC cyntaf.”
Tîm y Scarlets i chwarae Caeredin ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Sadwrn, Ionawr 25 (3yp; Premier Sports)
15 Ioan Nicholas; 14 Jac Davies, 13 Macs Page, 12 Johnny Williams, 11 Steff Evans; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Archer Holz, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Max Douglas, 7 Josh Macleod (capt), 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Sam O’Connor, 18 Gabe Hawley, 19 Jac Price, 20 Taine Plumtree, 21 Efan Jones, 22 Charlie Titcombe, 23 Jarrod Taylor.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Tomi Lewis, Sam Costelow, Ben Williams, Sam Wainwright, Ryan Elias, Harri O’Connor, Josh Morse.
Ddim ar gael oherwydd dyletswyddau rhyngwladol
Tom Rogers, Blair Murray, Ellis Mee, Joe Roberts, Eddie James, Kemsley Mathias, Henry Thomas