Fe fydd Tîm Dethol y Scarlets yn heidio am Gae Mennaye ddydd Sul i wynebu Môrladron Cernyw yn y Cwpan Prydeinig a Gwyddelig.
Sicrahodd y tîm ifanc fuddugoliaeth dros y dynion o Gernyw ar gae Talbot Athletic nos Lun gan sicrhau grwp agored iawn yn y gystadleuaeth.
Mae’r Môrladron, y Scarlets ac Ulster A wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth yr un yn y tri rownd agoriadol gyda’r timau yn rhannu’r brig gyda naw pwynt yr un. Mae Hartpury ar waelod y grwp wedi methu a sicrhau buddugoliaeth eto.
Wrth adlewyrchu ar y gêm yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y prif hyfforddwr Euros Evans; “Mae ennill gartref yn y gystadleuaeth yma yn hanfodol ac roedd yn bwysig iawn i ni wneud hynny. Roedd y Pirates wedi ennill y ddwy rownd agoriadol ac roedd hynny’n golygu bod y gêm yn gêm gwpan i ni mewn gwirionedd hyd yn oed mor gynnar a hyn yn y gystadleuaeth. Roedden ni’n bles iawn gyda’r fuddugoliaeth.
“Fe fyddwn ni’n teithio i Gernyw gyda bach o hyder ar ôl y canlyniad yma a gobeithio y gallwn ni gasglu rhywbeth ar yr hewl hefyd. Mae wedi bod yn ddechrau da.
“Mae’n hawdd anghofio pa mor ifanc yw’r bois yma. Maent bendant yn dangos eu doniau ac yn gwthio’r bois yn y garfan rhanbarthol. Mae pethau’n edrych yn bositif at y dyfodol.”
Tîm Dethol y Scarlets i wynebu Môrladron Cernyw ar ddydd Sul 17eg Rhagfyr, cic gyntaf 2.30YP;
15 Tom Prydie, 14 Tom Rogers, 13 Ioan Nicholas, 12 Tom Hughes, 11 Ryan Conbeer, 10 Jacob Botica, 9 Alex Schwarz, 1 Rhys Fawcett, 2 Taylor Davies, 3 Javan Sebastian, 4 Chris Long, 5 Joe Powell, 6 Lewis Ellis-Jones, 7 Dan Davis, 8 Shaun Evans ©
Eilyddion; Dafydd Hughes, Steffan Thomas, Scott Jenkins, Bryce Morgan, Gareth George, Jack Maynard, Billy McBryde