Scarlets yn ychwanegu’r rheng olwr Tristan Davies i’r garfan

Rob LloydNewyddion

Mae’r Scarlets wedi ychwanegu at y garfan am y tymor nesaf trwy arwyddo’r chwaraewr rheng ôl Tristan Davies o’r Gweilch.

Mae’r chwaraer 23 oed wedi chwarae 16 o gemau i dîm y Gweilch ers wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2022, ac wedi dechrau yng ngêmau Cwpan Her yn erbyn y Lions a Montpellier y tymor hwn, yn ogystal â gemau’r bencampwriaeth yn erbyn y Scarlets yn Llanelli a Chaerdydd ar Ddydd y Farn.

Chwaraeodd Tristan ei rygbi iau i Glwb Rygbi Bryncoch a derbyniodd ei gap D20 i Gymru yn ystod yr ymgyrch 2020-21 fel wythwr. Mae’r blaenwr sy’n sefyll yn 6tr 4m hefyd yn gallu chwarae yn safle’r clo.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Tristan i Barc y Scarlets yn yr haf. Mae ei steil corfforol o chwarae wedi dal ein sylw, mae Tristan wedi cymryd ei gyfle gyda’r Gweilch yn ystod y tymor, yn y Bencampwriaeth ac yn Ewrop.

“Mae’n gweithio’n galed yn amddiffynol. Bydd yn ychwanegu at y grwp o flaenwyr sydd gyda ni yma yn barod.”

Dywedodd Tristan Davies: “Dwi’n edrych ymlaen at y cyfle. Dwi’n hoffi beth sydd yn adeiladu yn y Scarlets a’r cyfeiriad mae’r tîm yn datblygu ac rwy’n credu allai ddod â steil fy hun i’r grwp ac ychwanegu rhywbeth i’r carfan.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Peely a Cubby am y cyfle o ymuno â’r grwp yma a gwella ar fy ngêm. Dwi wastad wedi edmygu steil o chwarae’r Scarlets ac mae’r gefnogaeth sydd gyda nhw ym Mharc y Scarlets yn anhygoel – mae’n le anodd iawn i ddod fel gwrthwynebwr, felly rwy’n hapus iawn i gael y gefnogaeth yna ar fy ochr i o nawr ymlaen.

“Hefyd, rwy’n ddiolchgar iawn am y tymhorau diwethaf gyda’r Gweilch a popeth dwi wedi ei ddysgu yna, ond edrychaf ymlaen at y dyfodol gyda’r Scarlets.”

Tristan yw’r pumed cyhoeddiad o chwaraewr newydd am dymor 2025-26, yn ymuno â Joe Hawkins, Jake Ball, Dane Blacker a Ioan Jones.

Macs Page, Tomi Lewis, Eddie James, Joe Roberts, Taine Plumtree, Kemsley Mathias, Sam Costelow a Johnny Williams yw’r chwaraewyr sydd wedi arwyddo cytundebau newydd i’r clwb.