Datganiad: Scarlets yn talu teyrnged i gadeirydd BRP Amanda Blanc sy’n gadael ei rôl

Rob Lloyd Newyddion

Hoffir y pedwar tîm proffesiynol Cymraeg – Rygbi Caerdydd, Rygbi Dreigiau, Gweilch a’r Scarlets – a Marianne Okland, Cyfarwyddwr annibynol y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (BRP), rhannu eu tristwch wrth glywed bod cadeirydd y BRP Amanda Blanc yn camu i lawr o’i rôl ac oddi Bwrdd yr Undeb Rygbi Cymru.

Fe wnaeth Amanda dilyn David Lovett, ac yn gynt Syr Wyn Williams, yn y rôl ym mis Rhagfyr 2019, ac roedd yn apwyntiad anhygoel i’r gêm broffesiynol yng Nghymru.

Roedd Prif Weithredwr Grwp Aviva yn gwmws y fath o berson roedd angen i yrru’r gêm ymlaen yng Nghymru a hoffwn ddiolch Amanda am ei ymdrechion dros y ddwy flynedd diwethaf.

Fe gyfarwyddodd Amanda y gêm trwy gyfnod heriol yn ystod pandemig Covid-19 a dangosodd uniondeb, proffesiynoldeb, empathi ac ymrwymiad trwy gydol.

Yn ystod ei hamser yn y rôl mae Amanda wedi llwyddo i hyrwyddo cydweithrediad a trafodaethau rhwng y rhanbarthau er mwyn gwella’r gêm broffesiynol.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cydweithwyr yn yr URC i sicrhau apwyntiad addas i’r rôl, gyda’r gallu i wthio’r gêm broffesiynol ac i barhau’r gystadleuaeth sy’n esbylgu’n gyflym.

Ar ran Rygbi Caerdydd, Rygbi Dreigiau, Gweilch, Scarlets a Marianne Okland, hoffwn unwaith eto ddiolch Amanda a dymuno’r gorau iddi am y dyfodol.