Chwaraewr rheng ôl Scarlets a Chymru Taine Plumtree yw’r chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
Mae’r chwaraewr 25 oed yn ei ail dymor o rygbi yng Ngorllewin Cymru ar ôl symud o Seland Newydd yn ystod haf 2023.
Wedi’i eni yn Abertawe, enillodd Taine ei gap cyntaf i Gymru o flaen Cwpan Rygbi’r Byd 2023. Sgoriodd dau gais yn erbyn y Vodacom Bulls ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ac erbyn hyn wedi gwneud 27 ymddangosiad, gan groesi am ei chweched cais yn ystod y fuddugoliaeth darbi yn erbyn y Gweilch penwythnos diwethaf.
Dywedodd “Dwi wrth fy modd i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets. Ges i groeso cynnes iawn wrth y chwaraewyr, staff a’r cefnogwyr gyda’r gefnogaeth dwi wedi ei dderbyn dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Roedd y penderfyniad i aros gyda’r clwb yn un hawdd.
“Rheswm arall roeddwn am ail-arwyddo gyda’r clwb oedd oherwydd y potensial dwi’n gweld yma – trwy’r bois sy’n datblygu a’r dalent sydd yma yn barod. Dwi am fod yn rhan o hynny. Mae amseroedd cyffrous ar y gweill, ac rwy’n credu i ni wedi dangos ychydig o beth sydd i ddod eleni a gobeithio fe allwn barhau i adeiladu dros y blynyddoedd nesaf.”
Yn edrych nôl ar y fuddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn y Gweilch – gêm lle wnaeth Taine croesi am ei chweched gais Scarlets – ychwanegodd: “Roedd hi’n wych i weld gymaint yn y Parc. Er i ni gael y fuddugoliaeth, mae yna waith i’w wneud o hyd gyda gêm fawr arall yn dod yn erbyn y Gweilch yn Ewrop ar Ddydd Sul. “Mae’r adeg yma yn un gyffrous i bawb.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Taine wedi bod yn wych ers iddo gyrraedd yma yn Llanelli rhai blynyddoedd yn ôl. Mae’n gymeriad mawr o amgylch y grŵp ac yn chwaraewr allweddol ar y cae. Hefyd wedi dangos ei hun fel arweinydd.
“Mae Taine yn ddyn ifanc ac i ni’n edrych ymlaen at weld beth sydd i ddod ohono. Mae’n athletaidd, yn cario’n gryf, yn opsiwn gwych yn y llinell ac yn chwaraewr sydd yn gweithio’n galed ar ei gêm – un sydd yn ceisio gwella trwy’r amser. Rydyn ni wrth ein bodd i’w weld yn arwyddo cytundeb newydd ac mae ganddo ran fawr i chwarae yn ddatblygiad y tîm.”
Mae’r Scarlets yn barod wedi cyhoeddi cytundebau Macs Page, Tomi Lewis, Joe Roberts ac Eddie James. Bydd y chwaraewr rhyngwladol Joe Hawkins hefyd yn symud i Orllewin Cymru o Exeter Chiefs yn yr haf.
Bydd mwy o gyhoeddiadau yn cael ei wneud dros yr wythnosau i ddod.