Taine yn barod am y gêm agoriadol yn erbyn Munster

Rob LloydNewyddion

Bydd y Scarlets yn croesawu day cyn pencampwyr y bencampwriaeth o fewn y pum gêm agoriadol yn y gystadleuaeth, ond mae Taine Plumtree yn edrych ymlaen at y frwydr.

Ein gwrthwynebwyr yn y rownd gyntaf Munster, a enillodd y bencampwriaeth yn 2023 yw’r gêm gyntaf o’r tymor ym Mharc y Scarlets, ac yn cael ei ddilyn gan y pencampwyr cyntaf o’r gystadleuaeth, y DHL Stormers, yn y trydydd rownd.

Gyda taith i Connacht rhwng y gêm gyntaf a’r taith i Dde Affrica, mae’n disgwyl i fod yn ddechreuad corfforol ond cyffrous i Dwayne Peel a’i dîm.

Er hyn, mae Taine, sydd ar fin cychwyn ei drydedd tymor gyda’r clwb, methu aros.

“Mae’n ddechreuad da i’r tymor, i chwarae yn erbyn rhai o’r timau gorau yn y gyngrhair,” dywedodd y chwaraewr rheng ôl rhyngwladol. “Os allwn ni ddod allan o’r gemau cychwynol gyda canlyniadau mawr yn y bloc gyntaf mi fydd hyn yn ein rhoi ar llwybr da am weddill y tymor.

“Roedd y garfan yn hapus gyda’n perfformiad ar ddiwedd y tymor, wrth cyrraedd yr wyth olaf, roedd hynny’n darged i ni o’r dechrau, ac i ni nawr am adeiladu ar hynny.

“Os edrychwch nôl ar y rhan gyntaf o’r tymor diwethaf, roedd sawl gêm agos heb fynd ein ffordd ni, ac efallai buaswn ni wedi gorffen yn uchelach ar y tabl.

“Mae pawb yma eisiau gwella. I ni eisiau dangos mai ni yw’r gorau yng Nghymru.”

Ychwanegodd Taine: “I ni wedi sôn lawer am gadw’r momentwm o’r llynedd i fynd. Mae llawer o waith wedi mynd i mewn o bob agwedd o’r gêm. Mae Brad (Davies) wedi dod â llais newydd i’r grwp ac wedi herio’r bois yn gorfforol. Mae’r bois wedi gweithio’n galed i baratoi.

“Yn bersonol, dwi’n ysu i fynd. Dwi’n teimlo’n dda, yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae’n holl bwysig i gael y seibiant o rygbi. Treuliais amser gyda fy nhad a’n fam yn Ne Affrica, cwpl o wythnosau yn Ewrop, Barcelona a Lisbon a ges i lawer o hwyl yna. Mae’r gwaith ymarfer dros yr haf wedi dod i ben nawr ac i ni’n edrych ymlaen at gêm Munster.”

Roedd cefnogwyr driw Parc y Scarlets wedi chwarae eu rhan yn y buddugoliaethau tymor diwethaf, gyda gemau cofiadwy yn erbyn Bulls, y Gweilch a’r pencampwyr Leinster, gêm hollbwysig i’r Scarlets i hawlio’i safle yn yr wyth olaf.

“Mae gyda ni cefnogwyr arbennig a driw,” ychwanegodd Taine. “Gobeithiwn fe allwn groesawu torf mawr i Munster wrth i’r presenoldeb yna ein annog yn fawr.”