Ychydig wythnosau sydd i fynd tan ein gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig ym Mharc y Scarlets, pan fyddwn ni’n croesawu Munster i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Medi 27
Mae chwaraewyr fel Blair Murray, Ioan Nicholas a Sam Costelow wedi ymrwymo i’r Scarlets am y tymor newydd, ac ry’n ni’n falch iawn eich bod chi wedi ymrwymo i deulu’r Scarlets trwy adnewyddu neu prynu tocyn tymor.
Mae’n bosib erbyn hyn i chi ychwanegu eich Tocyn Tymor 2025-26 i’ch ffôn hefyd, gan wneud eich ymweliad â Pharc y Scarlets ar ddiwrnod gêm hyd yn oed yn haws.
Sut i lawrlwytho eich tocyn tymor
- Arhoswch am ebost wrth swyddfa docynnau’r Scarlets
- Dewiswch yr eicon perthnasol i safio’ch tocyn i’ch ffôn (Apple neu Google)
- Cysylltwch â ni os oes genncyh gwestiwn, ebostiwch [email protected] neu ffoniwch 01554 29 29 39
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Barc y Scarlets, ddydd Sadwrn 27ain Medi, cic gyntaf 17:30.
