Tom Rogers i ddychwelyd am Ddydd y Farn

Rob LloydNewyddion

Y chwaraewr rhyngwladol Tom Rgoers sydd yn dychwelyd i dîm y Scarlets ar gyfer Dydd y Farn ar Ddydd Sadwrn yn erbyn y Dreigiau yn Stadiwm Prinicpality (17:30; S4C & Premier Sports).

Mae Rogers wedi gwella o anaf i’w fys bawd a gafwyd yng ngêm Chwe Gwlad Cymru yn erbyn yr Alban ac yn ymddangos fel un o dair newid i’r tîm a gollodd yn erbyn y Gweilch yng Nghwpan Her Ewrop.

Wrth gynnwys Rogers ar yr asgell mae Macs Page yn symud i ganol cae wrth ochr Eddie James i ddangos partneriaeth ifanc a chyffrous. Blair Murray sydd yn parhau fel cefnwr gydag Ellis Mee ar yr asgell chwith.

Ioan Lloyd a Gareth Davies sydd eto wedi’u henwi fel ein haneri.

Yn y rheng flaen, Marnus van der Merwe sydd yn cychwyn fel bachwr gyda’r prop Alec Hepburn a Henry Thomas ar naill ochr.

Alex Craig, seren y gêm o gêm Ddydd y Farn ddiwethaf, sy’n ail-gyfuno yn yr ail reng gyda Sam Lousi.

Yn y rheng ôl mae Vaea Fifita, Taine Plumtree a’r capten Josh Macleod yn parhau.

Ryan Elias, Jac Price a Joe Roberts sydd ar y fainc, wrth i Archie Hughes cael ei enwi yn lle Efan Jones fel eilydd mewnwr.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Yn amlwg mae’n gêm bwysig iawn i ni o ran ein huchelgeisiau yn y gynghrair. Mi fydd y Dreigiau yn gystadleuol iawn. Mae ganddyn nhw chwaraewyr da a fydd yn barod i’n herio.

“Mae’r ddwy gêm yn bwysig iawn i’r safleoedd yn y bencampwriaeth sydd yn ychwanegu at y cyffro o Ddydd y Farn. I’r chwaraewyr ifanc sydd heb chwarae yn y stadiwm o’r blaen, mi fydd yn achlysur arbennig iddyn nhw a phrofiad da.”

Tîm y Scarlets i chwarae’r Dreigiau yn Stadiwm Principality ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 19 (5.30pm; S4C, Premier Sports)

15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Macs Page, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Ioan Lloyd, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.

Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Sam O’Connor, 18 Sam Wainwright, 19 Jac Price, 20 Jarrod Taylor, 21 Archie Hughes, 22 Joe Roberts, 23 Ioan Nicholas.

Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch

Kemsley Mathias, Johnny Williams, Max Douglas, Sam Costelow, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Josh Morse, Isaac Young.