Un newid i dîm y Scarlets i wynebu’r Llewod

Rob LloydNewyddion

Bydd y Scarlets yn herio’r Emirates Lions mewn gêm dyngedfennol i’r Ras yr Wyth Olaf ar Ddydd Sul, gan ddangos ond un newid i’r tîm a gurodd Leinster.

Y bachwr De Affrig Marnus van der Merwe sydd yn cyfnewid gyda Ryan Elias yn y rheng flaen i gychwyn gêm rownd 17 yn Johannesburg (2yp amser DU)

Blair Murray, Tom Rogers ac Ellis Mee sydd yn parhau yn y tri ôl, Joe Roberts a Johnny Williams sydd yng nghanol cae, wrth i Gareth Davies a Sam Costelow cydweithio fel ein haneri.

Cyn bachwr y Cheetahs van der Merwe sydd yn y rheng flaen yng nghanol Alec Hepburn a Henry Thomas; Alex Craig a Sam Lousi sydd yn yr ail reng, Vaea Fifita ar yr ochr dywyll, Taine Plumtree fel ein hwythwr a’r capten Josh Macleod ar yr ochr agored.

Kemsley Mathias sydd wedi gwella o anaf i gymryd ei le ymysg yr eilyddion. Mae Dan Davis hefyd wedi’i gynnwys yn y rhestr o 23.

Ar hyn o bryd mae’r Scarlets yn y seithfed safle yn nhabl BKT URC gyda dwy gêm o’r tymor arferol ar ôl i’w chwarae.

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae yna her anferth o’n blaenau, a gêm fawr ddydd Sul yn Joburg, ond i ni mewn sefyllfa dda ac yn edrych ymlaen at y sialens. Rydym wedi trafod y nod i fod yn gystadleuol trwy gydol y tymor, ond i ni hefyd am wthio lan y gynghrair. Mae ein tynged yn ein dwylo ac mae angen i ni gofio hynny.

“2018 oedd y tro diwethaf i ni guro Leinster – nad ydyn ni wedi ennill yn Ne Affrica ers i’r pedwar clwb cael eu cyflwyno i’r gystadleuaeth felly i fynd yn bellach (i’r wyth olaf) mae rhaid i ni greu mwy o hanes.”

Tîm y Scarlets i chwarae’r Emirates Lions yn Emirates AIrline Park ar Ddydd Sul, Mai 11 (2yp Amser Prydeinig; S4C, Premier Sports)

15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Ellis Mee; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Alex Craig, 5 Sam Lousi, 6 Vaea Fifita, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.

Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Kemsley Mathias, 18 Sam Wainwright, 19 Dan Davis, 20 Jarrod Taylor, 21 Archie Hughes, 22 Ioan Lloyd, 23 Macs Page.

Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch

Max Douglas, Ben Williams, Archer Holz, Harri O’Connor, Sam O’Connor, Josh Morse, Isaac Young.