Whiffin yn enwi tîm o Dan 20 Cymru i wynebu’r Eidal

Rob LloydNewyddion

Mae’r Prif Hyfforddwr Richard Whiffin wedi enwi ei dîm i herio’r Eidalwyr ar Barc yr Arfau brynhawn Gwener 13 Mehefin am 4.30pm.

Wedi’r golled drom yn erbyn Lloegr ar Barc Pont-y-pŵl ddydd Gwener diwethaf, mae Whiffin wedi gwneud nifer o newidiadau ar gyfer y gêm baratoadol olaf hon cyn i Gymru deithio i’r Eidal ar gyfer Pencampwriaeth o Dan 20 y Byd.

Dim ond y maswr Harri Ford, yr asgellwr Ioan Duggan a’r wythwr Evan Minto sydd wedi llwyddo i gadw’u llefydd ar gyfer yr onest ar Barc yr Arfau.

Eglurodd Richard Whiffin: “Roeddwn i eisiau rhoi cyfle i nifer o chwaraewyr cymharol ddi-brofiad yn erbyn Lloegr i weld sut y bydden nhw’n ymdopi yn erbyn grym a safon y Saeson – a’r bwriad o’r dechrau oedd trin yr ornest yma’n erbyn Yr Eidal fel ein paratoad mawr olaf cyn neidio ar yr awyren i’r Bencampwriaeth.”

Mae’r Eidal wedi bod yn wrthwynebwyr heriol i Gymru dros y blynyddedd diwethaf ar y lefel hon ac mae Richard Whiffin yn disgwyl sialens debyg eto ddydd Gwener

“Fe fyddan nhw’n dîm caled a chorfforol, yn enwedig ymysg yr wyth blaen – ac efallai y bydd ganddyn nhw bwynt i’w brofi yn ein herbyn gan i ni eu curo o drwch blewyn yn y Chwe Gwlad. Fe fyddai pethau wedi bod yn wahanol wrth gwrs pe byddai eu cic hwyr wedi llwyddo – ond diolch i’r drefn ni oedd yn dathlu eiliadau wedi hynny.

“Er bod eu pac yn gryf – mae eu cicio tactegol i’w edmygu hefyd – ac mae nifer o’u holwyr yn arbennig o gyflym. Fe fyddan nhw’n cynnig gwir her i ni unwiath eto ym mhob agwedd o’r gêm.

“Ry’n ni eisiau i’n bechgyn ni chwarae o dan bwysau gan bod Pencampwriaeth y Byd ar y gorwel ac fe fydd gêm brynhawn Gwener yn baratoad gwerthfawr cyn i ni deithio i’r Eidal i wynebu Ariannin, Ffrainc a Sbaen.

“Gobeithio bydd y pwysau o geisio sicrhau eu lle ar yr awyren i’r Eidal yn arwain at berfformiad o safon gan y bechgyn ddydd Gwener.”

Cymru D20 v  Yr Eidal D20, Gwener 13 Mehefin, Parc yr Arfau, 4.30pm

15 Jack Woods (Caerfaddon)
14 Ioan Duggan (Dreigiau)
13 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
12 Steffan Emanuel (Caerdydd)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
10 Harri Ford (Dreigiau)
9 Logan Franklin (Dreigiau);
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Dan Gemine (Gweilch)
5 Luke Evans (Caerwysg)
6 Deian Gwynne (Caerloyw)
7 Harry Beddall (Dreigiau – Capt)
8 Evan Minto (Dreigiau)

Eilyddion

16 Evan Wood (Pont-y-pŵl / Met Caerdydd)
17 Louie Trevett (Bryste)
18 Jac Pritchard (Scarlets)
19 Tom Cottle (Caerdydd)
20 Nick Thomas (Dreigiau)
21 Ryan Jones (Dreigiau)
22 Caio James (Caerloyw)
23 Keanu Evans (Scarlets)
24 Sion Davies (Caerdydd)
25 Harri Wilde (Caerdydd)
26 Elis Price (Scarlets)
27 Lewis Edwards (Gweilch)
28 Sion Jones (Scarlets)
29 Carwyn Legatt-Jones (Scarlets)

Bydd tocynnau ar gael ar y giât am £5 i oedolion gyda mynediad am ddim i rai o dan 16 oed.