Wythnos i fynd tan i gadw eich sedd

Rob LloydNewyddion

Dydd Sul 29ain Mehefin, 2025, yw’r cyfle olaf i sicrhau eich sedd presennol ar gyfer tymor 2025-26.

Fe fydd y seddau i gyd yn cael eu rhyddhau i werthiant cyffredinol ddydd Llun 30ain Mehefin.

Dewch Scarlets, hen ac ifanc, dewch i’r gâd! Mae’n hysbryd ar dân ac mae’n amser i ni ddod at ein gilydd ar gyfer tymor 2025-26! Mae tymor nesaf yn addo bod yn un gwefreiddiol o dan arweiniad arwyr ifanc a chyffrous y Scarlets.

I adnewyddu, cliciwch yma

Boed eich bod yn ddaliwr tocyn tymor ers cyfnod, neu’n ymuno â ni am y tro cyntaf, mae tymor nesaf yn addo bod yn un gwefreiddiol o dan arweiniad arwyr ifanc a chyffrous y Scarlets.


Mae Sam Costelow, Joe Roberts, Taine Plumtree, Eddie James, Tomi Lewis, Macs Page, wedi ymrwymo eu dyfodol i’r Scarlets, yn ogystal â’r canolwr Johnny Williams.

BUDDIANAU TOCYN TYMOR

Yn ogystal â chael mynediad i 11 gêm gartref ym Mharc y Scarlets, fe fydd Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys nifer o fuddianau unigryw.

Mae buddianau Tocyn Tymor 2025-26 yn cynnwys;

  • Cyfle i brynu tocynnau i gemau ail gyfle’r Scarlets yn Mharc y Scarlets cyn yr arwerthiant cyhoeddus
  • Mynediad am ddim i holl gemau graddau oed y Scarlets yn ystod 2025-26
  • Gwahoddiad i ddigwyddiadau unigryw fydd yn cynnwys rheolwyr, chwaraewyr ac hyfforddwyr y clwb
  • Gwahoddiad i sesiwn ymarfer agored yn ystod tymor 2025-26
  • Cyfle i ennill taith tu ôl i’r llenni o’r stadiwm ar ddiwrnod gêm
  • Gostyngiad oddi ar fwyd a diod ar ddiwrnodau gêm ym Mharc y Scarlets
  • Gostyngiad oddi ar becynnau lletygarwch ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnodau gemau’r Scarlets (gemau cynghrair URC arferol a gemau grwp EPCR yn unig)
  • Gostyngiad oddi ar docynnau ychwanegol i deulu a ffrindiau ar gyfer gemau penodol, i’w cadarnhau

CYFLWYNO FFRIND

Os ydych yn ddaliwr Tocyn Tymor 202-26 ac yn cyflwyno cwsmer newydd pan fyddwch chi’n adnewyddu ar gyfer tymor 2025-26, fe fyddwch chi’ch dau yn derbyn £20 oddi ar bris eich Tocyn Tymor. Er mwyn derbyn y gostyngiad, fe fydd yn rhaid i’r cwsmer newydd

  • fod yn newydd i system Tocynnau Tymor y Scarlets
  • heb fod yn ddaliwr tocyn tymor dros y dair mlynedd diwethaf
  • dros 16 mlwydd oed