Ymunwch â Chlwb Cochyn heddiw!

GwenanNewyddion

Mae’n amser i gefnogwyr ifanc y Scarlets i ymgynnull!

Clwb Cochyn yw’r ffordd gorau i blant ddangos eu cefnogaeth, cyfarfod ffrindiau newydd, a mwynhau profiadau unigryw arbennig trwy’r tymor. Yn berffaith ar gyfer cefnogwyr ifanc o enedigaeth hyd at 11 mlwydd oed.

Beth sydd wedi ei gynnwys?

Pecyn bach (0-5 mlwydd oed)

  • Pecyn croeso, gan gynnwys tedi Scarlets
  • Neges fideo bersonol gan chwaraewr i ddathlu’ch penblwydd, wedi ei anfon at gyfeiriad ebost y rhiant
  • Gwahoddiad arbennig i Barti Nadolig Cochyn, gydag aelodau o’r garfan
  • Gwahoddiad arbennig i Sesiwn Ymarfer Agored yn ystod gwyliau Pasg
  • Newyddion o bryd i’w gilydd a chynnwys tu ôl i’r llenni

£20 i aelodau tymor

£25 pris arferol

Pecyn ieuenctid (6-11 oed)

  • Pecyn croeso, sy’n cynnwys nwyddau diwrnod gêm
  • Neges fideo bersonol gan chwaraewr i ddathlu’ch penblwydd, wedi ei anfon at gyfeiriad ebost y rhiant
  • Gwahoddiad arbennig i Barti Nadolig Cochyn, gydag aelodau o’r garfan
  • Gwahoddiad arbennig i Sesiwn Ymarfer Agored yn ystod gwyliau Pasg
  • Newyddion o bryd i’w gilydd a chynnwys tu ôl i’r llenni
  • Cyfle i fod yn fasgot ar ddiwrnod gêm cartref y Scarlets
  • Gostyngiad o £5 discount ar Wersylloedd Rygbi’r Scarlets yn 2025-26

£35 i aelodau tymor

£40 pris arferol

Mae aelodaeth yn fwy na cherdyn – mae’n docyn i ddigwyddiadau unigryw a chymuned o gefnogwyr tebyg.

Peidiwch â cholli’r cyfle! Cofrestrwch yma, i fod yn rhan o glwb arbennig Cochyn!