Swydd ddisgrifiad – Swyddog Cymunedol y Scarlets
Teitl y swydd: Swyddog Sefydliad Gymunedol y Scarlets
Yn atebol i: Rheolwr Sefydliad Gymunedol y Scarlets
Oriau gwaith: Lleiafswm o 35 awr yr wythnos, gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau
Cyflog: £23,000-£25,000
Lleoliad: Parc y Scarlets gyda’r angen i deithio hyd a lled rhanbarth y Scarlets
Math o gytundeb: Cytundeb hyd penodol – 2 flynedd
Prif bwrpas y swydd
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r Llwybr Datblygu yn rhanbarth y Scarlets a gyda Sefydliad Gymunedol y Scarlets.
Prif bwrpas y rôl yw i arwain ar ddatblygiad chwaraewyr ifanc ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn rygbi yn y cymunedau ym mhob cwr o’r rhanbarth. Fe fydd hyn yn cynnwys cyflwyno i grwpiau Rhaglen Chwaraewyr Sy’n Dod i’r Amlwg (EPP) a Tharian Dewar, sicrhau bod chwaraewyr yn derbyn yr hyfforddiant gorau posib, adborth glir, a chyfleoedd i ddatblygu i’r lefle uchaf o berfformiad.
Yn ogystal â datblygiad chwaraewyr, fe fydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi clybiau, gwella galluoedd a hyder hyfforddwyr, athrawon a dyfarnwyr drwy fentora, addysg a rhaglenni Addysg Hyfforddwyr strwythuredig dan arweiniad y Scarlets.
Trwy greu berthnasau cryf gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, clybiau, a grwpiau cymunedol, fe fydd Swyddog Gymunedol y Scarlets yn gweithio tuag at dwf yn y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn rygbi, yn gwella profiadau chwaraewyr, ac yn meithrin cysylltiadau cynaliadwy rhwng y Scarlets a’r gymuned ehangach.
Ar ben hynny, mae’r rôl yn cefnogi cyflawni’r darpariaethau Cynhwysiant yn unol â strategaeth Cynhwysiant y Scarlets, cytundeb lefel gwasanaeth URC ac yn arwain meysydd penodol fel y cytunwyd gyda Rheolwr Sefydliad Cymunedol y Scarlets.
Prif gyfrifoldebau
- I ddarparu neu cefnogi’r darpariaeth o rygbi undeb i fechgyn a merched.
- Cyflwyno sesiynau rygbi i gefnogi’r llwybr datblygu chwaraewyr o fewn Rhanbarth y Scarlets
- Cyflwyno digwyddiadau DPP i gefnogi Rhaglen Addysg Hyfforddwyr y Scarlets
- Llunio, cyflwyno neu hwyluso cyflwyno rhaglenni gweithgaredd rygbi cwbl gynhwysol, sy’n ymgysylltu â chwaraewyr o bob gallu
- Arwain ar ddarpariaethau Cynhwysiant penodol
- Cefnogi’r Cydlynydd Marchnata a Digwyddiadau i gyflwyno Profiad Diwrnod Gêm i Glybiau / Ysgolion / Sefydliadau ym Mharc y Scarlets yn ystod gemau cartref y Scarlets
- Cyflwyno a chefnogi gweithgareddau hyrwyddo i dyfu brand y Scarlets. (Gwersylloedd, Sioeau ac ati)
- Annog a chefnogi bechgyn a merched i drosglwyddo i glybiau cymunedol lleol, neu clystyrau, fel sy’n briodol
- Cefnogi’r lleoliadau addysgol, clybiau/clystyrau cymunedol lleol ac wrth ddatblygu a chynnal amgylchedd cwbl gynhwysol a phriodol i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn rygbi, gan gynnwys ac yn enwedig drwy addysg a datblygiad hyfforddwyr, dyfarnwyr a gwirfoddolwyr
- Cefnogi rhaglenni datblygu rygbi ar sail leol, ranbarthol a chenedlaethol, yn ôl yr angen
- Cyfrannu at ddatblygu a chynnal amgylchedd gwaith diogel a chynhwysol ym mhob man gwaith, gan gynnwys trwy gydymffurfio â pholisïau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, diogelu, cyfrinachedd, cyfryngau cymdeithasol a diogelu data (yn unol â gofynion WRU a gofynion addysgol)
Manyleb Person
Hanfodol
- Profiad o hyfforddi chwaraewyr ifanc mewn rygbi ar draws amrywiol leoliadau
- Dealltwriaeth gref o ddatblygiad chwaraewyr (technegol/tactegol)
- Profiad o fentora hyfforddwyr a chyflwyno Rhaglenni DPP
- Cymhwyster hyfforddi URC (Dyfarniad Hyfforddi Lefel 2 Gêm Lawn URC neu’n gweithio tuag at Lefel 3 Gêm Lawn URC)
- Cliriad DBS
- Trwydded yrru lawn y DU
- Sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd rhagorol
- Y gallu i ymgysylltu â chwaraewyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid a dylanwadu arnynt
- Sgiliau cynllunio, dirprwyo a threfnu cryf
- Datrys problemau effeithiol a sylw i fanylion
- Ysgogedig, rhagweithiol ac addasadwy gydag agwedd gadarnhaol
- Hyblyg i weithio gyda’r nos a phenwythnosau
- Gwybodaeth am ddiogelu a’r dirwedd chwaraeon leol
- Llythrennog o ran TG
Dymunol
- Profiad o weithio ym maes Cynhwysiant a Chwaraeon i Bobl Anabl
- Sgiliau yn y Gymraeg
Gwybodaeth Ychwanegol
- Rhaid i bob swyddog gynnal safon briodol o gyfrinachedd. Bydd unrhyw ddatgeliadau o wybodaeth gyfrinachol (gan gynnwys gwybodaeth bersonol a gedwir ar gyfrifiadur neu gyfryngau eraill) a wneir yn anghyfreithlon y tu allan i gwrs priodol y ddyletswydd yn cael eu trin fel trosedd disgyblu difrifol.
- Angerdd dros chwaraeon a dealltwriaeth o faterion ehangach sy’n ymwneud â chwaraeon, profiad datblygu chwaraeon, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant, iechyd ac addysg.
- Rhaid i amgylchiadau personol ganiatáu i’r ymgeisydd weithio oriau estynedig ar adegau yn ystod cyfnodau prysur, gan gynnwys gyda’r nos a phenwythnosau.
- Gall disgrifiad y rôl, manyleb y person, gradd y rôl a theitl y rôl newid yn ôl disgresiwn y Scarlets ac yn unol â datblygiadau busnes. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyfleu i’r ymgeisydd yn ôl yr angen.
Safonau isafswm
- Y tu allan i’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl, rhaid i ni gydymffurfio â’r safonau gofynnol a osodwyd gan ein cyrff llywodraethu. Rhaid i bob gweithiwr fodloni’r safonau hyn wrth weithio i ni a byddwn yn darparu’r hyfforddiant angenrheidiol lle bo angen.
Dyddiad cau: 12 o’r gloch, Gwner 11eg Gorffennaf
I wneud cais, anfonwch gais, gan gynnwys CV a llythyr eglurhaol, at [email protected]