Step 1 of 2

LLYFR AGORED: YMGYNGHORIAD URC

Mae’r Scarlets wedi lansio ‘Llyfr Agored’ i alluogi pawb sy’n gysylltiedig â’r clwb a rhanbarth rygbi ledled Gorllewin Cymru a thu hwnt i rannu eu llais fel rhan o ymgynghoriad Undeb Rygbi Cymru ar ddyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru, mewn ymateb i drafodaethau parhaus gyda’n rhanddeiliaid, clybiau cymunedol, cefnogwyr, noddwyr a phartneriaid.

Hoffwn glywed eich barn ar ddyfodol rygbi yng Nghymru, yn enwedig rôl y Scarlets a Pharc y Scarlets yn nyfodol rygbi yn ein cymunedau. Bydd yr holl gyfraniadau yn cael eu casglu a’u hanfon ymlaen at Undeb Rygbi Cymru fel rhan o’r cyfnod ymgynghori sy’n dod i ben ar 26 Medi, 2025, er mwyn cynnig darlun ehangach o’n cymuned ac er mwyn sicrhau bod pawb ar draws ein cymuned yn cael cyfle i leisio barn.

Fel conglfaen rygbi yng Nghymru, mae’r Scarlets yn angori rygbi elitaidd, datblygu talent, hunaniaeth ddiwylliannol a thwf economaidd ledled Gorllewin Cymru. Mae ein clwb yn rhan allweddol o dwf cymunedol ac economaidd hefyd gyda stadiwm rygbi a chymunedol arbennig ym Mharc y Scarlets. Rydym yn rhan o galon ac enaid rygbi yn yr ardal gyda phwrpas a hanes arbennig. Bob tymor mae’r clwb yn cyfrannu’n sylweddol at y gêm ryngwladol. Mae ymgynghoriad URC ac effaith ei ‘ateb gorau posibl’ arfaethedig yn mynd tu hwnt i drafodaeth am y gêm broffesiynol.

Yn fwy na thîm proffesiynol, mae’r Scarlets yn credu’n gryf y dylid diogelu a chynnal ei lwyddiant a;i gyfraniad ar ein gêm yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol er lles rygbi Cymru.

I gyfrannu eich barn fel rhan o Ymgynghoriad URC cliciwch NESAF