Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi enwi’r tîm i wynebu Ffrainc yn Ail Rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 yn Stadiwm Principality, ddydd Sul 15 Chwefror (3.10pm, yn fyw ar S4C a BBC1).
Mae pedwar newid o safbwynt chwaraewyr a dau newid safle ychwanegol i’r pymtheg ddechreuodd yng ngêm gyntaf y gystadleuaeth y penwythnos diwethaf.
Mae’r prop pen rhydd Rhys Carre a’r prop pen tynn Tomas Francis, wedi’u dewis ar y naill ysgwydd a’r llall i’r capten Dewi Lake yn y rheng flaen. Wrth gamu o’r fainc y penwythnos diwethaf, fe wnaeth Francis ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Cwpan y Byd 2023.
Bydd Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn parhau yn yr ail reng. Yn y rheng ôl, mae Olly Cracknell wedi’i ddewis yn wythwr ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf erioed ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness. Mae Aaron Wainwright yn symud o safle’r wythwr i fod yn flaen-asgellwr ochr dywyll, tra bo Alex Mann yn symud o’r safle hwnnw i chwarae fel blaen-asgellwr ochr agored.
Mae Tomos Williams a Dan Edwards wedi eu dewis i barhau eu partneriaeth fel haneri.
Bydd Joe Hawkins yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni a’i gyd-ganolwr gyda’r Scarlets, Eddie Jmaes, fydd yn cadw cwmni iddo yng nhanol y cae.
Mae Steve Tandy wedi cadw’r ffydd gyda’r tri ôl, sef y cefnwr Louis Rees-Zammit a’r asgellwyr Josh Adams ac Ellis Mee .
Mae pum blaenwr a thri o olwyr wedi eu dewis ar y fainc. Mae Ryan Elias ar fin gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Cyfres yr Hydref yn 2024. Y prop pen rhydd Nicky Smith a’r prop pen tynn Archie Griffin sy’n cynnig gweddill yr opsiynau o safbwynt eilyddion y rheng flaen.
Ben Carter a Taine Plumtree yw’r blaenwyr eraill fydd yn dechrau ar y fainc.
Mae Jarrod Evans wedi’i gynnwys ymhlith yr olwyr wrth gefn ynghyd â Mason Grady a Kieran Hardy.

Dywedodd Steve Tandy: “Mae ambell newid yr wythnos hon. Mae llawer o’r newidiadau hynny’n seiliedig ar y ffaith ein bod yn chwarae Ffrainc yn benodol. Mae Olly Cracknell wedi cael wythnos lawn o ymarfer ac fe chwaraeodd yn dda iawn yn yr Hydref hefyd.
“Roedden ni’n hynod siomedig gyda’r perfformiad yr wythnos ddiwethaf. Ry’n ni wedi trafod hynny ac wedi delio gydag ef yn ein ffordd ein hunain.
“Roedd y bechgyn yn agored ac yn onest am y ffaith na wnaethon ni fynnu ein lle yn y gêm y penwythnos diwethaf.
“Fe chwaraeon ni i ddwylo Lloegr rhyw ychydig, ac yn amlwg roedd ein diffyg disgyblaeth yn siomedig iawn.
“Roedd honno’n wers galed ond yn wers bwysig i ni ei dysgu. Mae’n rhaid i ni wella’r agwedd honno o’n chwarae, fydd wedyn yn ein galluogi i osod mwy o’n stamp ein hunain ar y gêm ddydd Sul.”
Wrth sôn am y ffaith y bydd Cymru’n chwarae eu gêm gartref gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni, ychwanegodd Tandy: “Ry’n ni’n gyffrous i fod yn ôl yn Stadiwm Principality. Fe gawson ni bedair gêm yno’n yr Hydref ac roedd y dorf yn anhygoel. Dwi’n gwybod fy mod i wedi sôn llawer am yr egni roddodd y dorf i’r bechgyn bryd hynny, yn enwedig yn erbyn Seland Newydd ond mae’r cefnogwyr yn golygu cymaint i ni fel carfan a’n nod ni’r penwythnos yma yw eu hysbrydoli gyda’n perfformiad.”
Tim Cymru
15 Louis Rees-Zammit (Bryste); 14 Ellis Mee (Scarlets), 13 Eddie James (Scarlets), 12 Joe Hawkins (Scarlets), 11 Josh Adams (Caerdydd); 10 Dan Edwards (Gweilch), 9 Tomos Williams (Caerloyw); 1 Rhys Carre (Saraseniaid), 2 Dewi Lake (Gweilch), 3 Tomas Francis (Provence Rugby), 4 Dafydd Jenkins (Caerwysg), 5 Adam Beard (Montpellier), 6 Aaron Wainwright (Dreigiau), 7 Alex Mann (Caerdydd), 8 Olly Cracknell (Caerlŷr).
Replacements: 16 Ryan Elias (Scarlets), 17 Nicky Smith (Caerlŷr), 18 Archie Griffin (Caerfaddon), 19 Ben Carter (Dreigiau), 20 Taine Plumtree (Scarlets), 21 Kieran Hardy (Gweilch), 22 Jarrod Evans (Harlequins), 23 Mason Grady (Caerdydd).
