Steff Hughes yn trafod dechrau Cwpan Her Ewrop a’i rôl fel Capten

Rob Lloyd News

Dechreuad gwych i’r tymor, mae rhaid bod chi’n hapus gyda 5 buddugoliaeth allan o 6?

Ie, mae wedi bod yn ddechreuad da, mae’r pencampwriaeth wedi bod yn un anodd, ro ni’n siomedig gyda’r perfformiad lan yng Nghaeredin ond fi’n credu mae’r ffordd i ni wedi dod nol a dangos beth ry’ ni’n gallu gwneud a ennill gemau anodd mewn tywydd anffodus yn hwyr yn y gem yn dangos pa mor agos i ni fel carfan.

Dy rôl fel Capten, wyt ti’n mwynhau’r cyfrifoldeb? 

Mae wedi bod yn wych, ni’n lwcus yn y clwb mae sawl chwaraewr wedi bod ma fel Ken a Jon Davies yn amlwg, bechyn ar gyfer unigolion fel fy hun i edrych lan arnynt fel ‘role models’. Rydw i wedi bod yn joio fe,  mae wedi bod yn gret a dydw i ddim yn paratoi unrhywbeth yn wahanol i beth tase ni ddim yn gapten, mae wedi bod yn fraint.

Ymgyrch gwahnol penywthnos yma gyda’r Cwpan Her Ewropeaidd, gyda’r Scarlets yn gyfarwydd gyda’r Cwpan y Pencampwyr, sut wnewch chi baratoi ar gyfer hyn?

Yn yr un ffordd a bydde ni bob blwyddyn, yn draddodiadol mae’r clwb wedi bod yn perfformio yn dda a cael buddugoliaethau da yn Ewrop, a dyw hwnna ddim byd yn wahanol i leni. Ry ni’n targedu’r gemau hyn i gael buddugoliaethau a gobeithio fod yn llwyddiannus yn y pencampwriaeth.

Gwyddelod Llundain yn ymwelwyr o Loegr sut rydych yn ymateb i hyn?

Ie, mae nhw wedi bod yn chwarae’n dda yn y uwch gynghrair eleni yn barod. Maent yn dîm gorfforol iawn a hefyd mae ganddynt y gallu i ledu’r bel, mae’n bwysig ein bod ni’n paratoi’n dda wythnos hyn ac yn sicrhau ein bod yn barod am y sialens.

Ers cyrhaeddiad Brad Mooar sut mae ef wedi ymgartrefi a ymateb i’r bechgyn yn y garfan?

Ffantastig, mae’n gymeriad gwych, a’r ffordd mae ef wedi cael y garfan gyda’i gilydd yn un. Mae yna egni positif o amgylch y clwb sy’n ardderchog, felly mae pawb yn mwynhau gweithio gydag ef yn dda iawn a ni’n gobeithio cadw fynd gyda’r buddugoliaethau.