10 Scarlet wedi’u henwi yng ngharfan Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Mae deg Scarlet wedi’u henwi yng ngharfan 38-dyn Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref 2021.

Mae Ken Owens, Wyn Jones, Liam Williams a Gareth Davies wedi’u henwi ymysg wyth Llew yng ngharfan Wayne Pivac ac yn ymuno’r pedwarawd mae Ryan Elias, WillGriff John, Johnny Williams Jonathan Davies, Kieran Hardy a Johnny McNicholl.

Bydd pencampwyr Chwe Gwlad 2021 yn chwarae yn erbyn y tri tîm gorau yn y byd gyda Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia yn cymryd rhan yn yr ymgyrch. Yn ogystal â Awstralia, bydd Cymru yn chwarae gwrthwynebwyr arall o Gwpan y Byd 2023 gyda Fiji yn chwarae yn yr ymgyrch.

Ar ôl colli mas ar ei gap cyntaf oherwydd y cyfnod clo cyntaf, bydd WillGriff John ar drywydd i dderbyn ei ymddangosiad Prawf cyntaf. Mae McNicholl wedi’i alw nôl hefyd, gyda Johnny Williams wedi profi ei ffitrwydd yn ystod y gêm URC yn erbyn Munster penwythnos diwethaf.

“Rydym yn deall bod y gêm agoriadol yn erbyn Seland Newydd tu fas i’r ffenest rhyngwladol ond dwi’n credu rydym i gyd angen y gêm hon, yn dilyn cyfnod anodd iawn i bawb oherwydd y pandemig,” dywedodd Pivac.

“Bydd hi’n grêt i chwarae o flaen stadiwm llawn unwaith eto, gyda nifer o fois yn cael y profiad yma am y tro cyntaf.

“Dyma oedd un o’r penderfyniadau caletaf dwi erioed wedi ei wneud gyda llai o rygbi wedi cymryd lle nag yr arfer gan ychwanegu at anafiadau.

“Wrth dewis chwaraewyr ar gyfer y garfan, i chi am gynnwys chwaraewyr ar frig eu gyrfa ond mae’n deg i weud nad yw llawer o chwaraewyr wedi cyrraedd y lefel top eto. Rydym wedi edrych ar berfformiadau blaenorol ar y lefel yma, gan gynnwys yr ymgyrch llwyddiannus yn y Chwe Gwlad, ac rydym wedi ystyried y ffeithiau hynny i mewn i’r garfan hon.

“Mae anafiadau o fewn safleoedd, yn enwedig ar yr ochr agored, wedi ein gorfodi i edrych yn ddyfnach nag yr arfer ond mae hyn yn golygu mwy o gyfleoedd i chwaraewyr i gael cyfleoedd ar y lefel yma. Gall hyn ond fod yn beth da wrth i ni barhau i bartoi ar gyfer Cwpan y Byd 2023.”