Yn ogystal â hyfforddi’n galed i barhau i ddatblygu eu gêm, cymerodd aelodau o Academi’r Scarlets ran mewn cwrs hyfforddi Barista yr wythnos diwethaf mewn cydweithrediad â Choleg Sir Gar a’r WRPA (Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru), lle cymerodd cynrychiolwyr o Coaltown Coffee amser i ffwrdd i hyfforddi’r bobl ifanc ar sut i gynhyrchu coffi o safon.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Chwaraewyr, Nerys Henry “Hoffem estyn diolch enfawr i Coaltown Coffee am groesawu grŵp o Scarlets ifanc i’w adeilad yn Rhydaman i ddysgu’r grefft o wneud coffi da. Roedd y cwrs yn rhan o raglen datblygiad personol y chwaraewyr, a drefnwyd gan yr WRPA ar y cyd â Choleg Sir Gâr.
“Ar ôl ychydig oriau o ddysgu am darddiad y ffa coffi, y technegau a’r prosesau a ddefnyddiwyd i rostio a gwneud y coffi yn Coaltown, cafodd y bechgyn gyfle i roi eu dysgu ar waith. Arweiniodd yr hyfforddiant at gelf latte drawiadol iawn a rhywfaint o waith tîm gwych. “
Yn y llun isod mae Chwaraewyr yr Academi; Harry Williams, Harry Breeze, Dom Booth, Callum Williams, Jac Morgan, Kemsley Mathias, Iestyn Rees, Jac Price ynghyd â chynrychiolwyr Coaltown Coffee James a Dan.