Fe wnaeth arwyr ’72 aduno ym Mharc y Scarlets ar gyfer cinio cofio arbennig er mwyn dathlu 50 mlynedd ers i Lanelli curo’r Crysau Duon.
Roedd dros 250 o westeion wedi mwynhau straeon o’r diwrnod bythgofiadwy.
Y capten Delme Thomas, Roy Bergiers a sgoriwyd y gais, Gareth Jenkins, Derek Quinnell, Tommy David, Roy ‘Shunto’ Thomas, Brian and Barry Llewellyn, Meirion Davies, Roger Davies, Selwyn Williams and Gwyn Ashby i gyd yn bresenol gyda theyrnged arbennig i’r chwaraewyr arbennig Ray Gravell, Phil Bennett, JJ Williams, Hefin Jenkins a Chris Charles a’r hyfforddwr arwrol Carwyn James, sydd bellach wedi ein gadael.
Cychwynodd y noson gyda perfformiad o’r sioe ‘Carwyn’ gan Theatr y Torch, wedi’i berfformio gan actor o Lanelli SImon Nehan.
Yn cyflwyno’r noson roedd cyn gapten Llanelli Rupert Moon, ac ymysg y gynulleidfa roedd Sean Fitzpatrick, prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel ac aelodau presennol o’r carfan, cyn chwaraewr y Scarlets a Chymru Mike Phillips a chyn hyfforddwr Cymru Mike Ruddock.
Fe gyflwynodd Simon Halliday o gwmni Sporting Wine Club sef un o bartneriaid masnachol y Scarlets, gwinoedd ‘9-3’ a ‘1872’ sydd nawr ar gael i brynu.
Fe siaradodd Derek Quinnell am sefydliad elusen Phil Bennett, sydd wedi’i sefydlu eleni, a fydd yn codi arian i blant difreintiedig ac anabl er mwyn iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon.