Chwaraewr ail reng y Scarlets Alex Craig sydd wedi’i enwi yng ngharfan yr Alban ar gyfer ymgyrch Gemau’r Hydref.
Cafodd Craig ei ddewis i garfan Gregor Townsend ar gyfer taith yr haf yn dilyn ei berfformiadau rhagorol yn ystod ei dymor cyntaf yn Llanelli ac nawr wedi’i gynnwys mewn grwp o 45 chwaraewr ar gyfer mis Tachwedd.
Bydd yr Alban yn herio Ffiji, De Affrica, Portiwgal ac Awstralia.