Mae’n dristwch mawr i ni glywed bod llais Parc y Scarlets, Andrew ‘Tommo’ Thomas, wedi marw’n sydyn.
Roedd Tommo yn ffigwr hynod boblogaidd fel cyhoeddwr PA diwrnod gêm Parc y Scarlets, cefnogwr angerddol o’r Scarlets a ddaeth â’i gymeriad a’i egni i bob gêm.
Dywedodd caplan y Scarlets, y Parchedig Eldon Phillips: “Rydyn ni’n gyd yn dorcalonnus i glywed y newyddion trasig hwn. Roedd Tommo wrth ei fodd â’r Scarlets a rhoddodd ei galon a’i enaid yn ei rôl fel ein cyhoeddwr diwrnod gêm.
“Yn gymeriad enfawr, roedd cefnogwyr, chwaraewyr a staff yn hoff iawn ohono.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i wraig Donna a’i fab Cian ar yr adeg drist hon.”