Ap newydd y Scarlets MiClub yn dod â rygbi llawr gwlad a’r gymuned fusnes ynghyd

Natalie JonesNewyddion, Newyddion Cymuned

Mae ap newydd arloesol sy’n dod â rygbi ar lawr gwlad a’r gymuned fusnes at ei gilydd wedi cael ei lansio gan y Scarlets.

Mae MiClub yn rhan o strategaeth Tair Blynedd, Tair Sir y Scarlets sy’n cynnwys siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn y rhanbarth.

Gan ddefnyddio technoleg ffôn clyfar, mae ap symudol MiClub yn annog busnesau i gofrestru fel darparwr MiPerks ar lwyfan a all gael mynediad at amcangyfrif o 20,000 o gwsmeriaid ar draws y 49 o glybiau cymunedol sy’n rhan o deulu’r Scarlets.

Dywedodd Nathan Brew, Pennaeth Masnachol y Scarlets: “Rhan annatod o’n strategaeth Tair Blynedd yn y Tair Sir yw annog cefnogwyr brwd rygbi a chwaraewyr i ymgysylltu â’u cymunedau lleol mewn sawl ffordd.

“Nod MiClub yw cefnogi’r ymgysylltiad hwn drwy greu un llwyfan lle gall pobl ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin gysylltu a hyrwyddo digwyddiadau, rhannu adnoddau a chynhyrchu nawdd gydag amlygiad pellach.

“Mae’r ap nid yn unig yn caniatáu i glybiau a’i aelodau gyfathrebu’n gyflym ac yn uniongyrchol â’i gilydd, ond mae hefyd yn annog datblygiad masnachol gyda busnesau lleol.”

Gall busnesau gysylltu â defnyddwyr MiClub yn eu hardaloedd lleol a darparu cynigion a hyrwyddiadau unigryw.

Ar gael ar Android ac iOS, mae MiClub hefyd yn rhoi cyfle i glybiau hyrwyddo eu digwyddiadau, cynhyrchu nawdd a chynnig mwy o sylw i noddwyr clybiau.

Gallwch gofrestru’n rhad ac am ddim fel darparwr busnes MiPerks cyn mis Medi. Ar ôl mis Medi, mae ffi weinyddol flynyddol o £14.99.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â thîm masnachol y Scarlets ar [email protected]