Archie a Lewis wedi’u henwi yng ngharfan D20 Cymru i wynebu’r Wallabies

Rob LloydNewyddion

Y mewnwr Archie Hughes a’r bachwr Lewis Morgan sydd wedi’u henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer ei gêm olaf o’r Bencampwriaeth D20 yn erbyn Awstralia, yn Stadiwm Athlone, Cape Town ar Ddydd Gwener.

Mae Hughes wedi cychwyn ym mhob gêm o’r twrnamaint ac fydd eto yn gwisgo crys rhif 9 yn erbyn y Wallabies, wrth i Morgan gael ei enwi ar y fainc.

Bydd y gêm yn cychwyn am 1yp ac yn cael ei ddarlledu ar S4C World Rugby digital channels.

Mae’r ochr yn dangos tri newid o’r XV a gychwynodd yn erbyn Georgia ar Ddydd Sul diwethaf yn Paarl. Y tri ôl yn parhau gyda Harri Houston, Tom Fletcher a Llien Morgan. Bryn Bradley yn cychwyn fel canolwr, gan newid safle gyda Joe Westwood sydd wedi’i enwi fel eilydd. Yn bartner i Bradley yng nghanol cae fydd Louie Hennessey. Am y pumed gêm yn olynol, bydd y bartneriaeth rhwng Hughes a Dan Edwards yn parhau fel haneri.

Mae Jones wedi dewis yr un rheng flaen o Dylan Kelleher-Griffiths, Lewis Lloyd a Kian Hire a gychwynodd yn erbyn Georgia ond wedi dod i mewn â Evan Hill i gymryd lle Liam Edwards sydd wedi’i anafu yn yr ail reng. Jonny Green fydd yn ei ymuno wrth ei ochr.

Lucas De La Rua, a sgoriwyd yn erbyn y Georgians fel eilydd, sydd yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agorerd, gan eliyddio Seb Driscoll gyda’r capten Ryan Woodman a Morgan Morse ar yr ochr dywyll ac fel wythwr. Morgan (llun) sydd wedi’i enwi ar y fainc, fel yr oedd yn erbyn Georgia.

Roedd Jones wrth ei fodd gyda’r fuddugoliaeth yn erbyn Georgia ond yn disgwyl her gwahanol yn erbyn Awstralia.

“Roedd y gwaith wedi dod at ei gilydd – roedd hynny’n teimlo fod y paratoadau wedi dangos yn ein perfformiad trwy gydol y gêm,” dywedodd y cyn asgellwr i’r Scarlets.

Roedd ein darn gosod wedi gorffen yn dda yn erbyn Georgia. Roedd rheolaeth y tîm yn dda yn enwedig wrth gymharu â’r ail hanner yn erbyn Seland Newydd. Dysgodd y bois wrth hynny, ond rydym yn gwybod bydd disgwyl i ni godi’r safon eto ar gyfer y gêm yma.

“Rydym yn disgwyl gêm fwy agored, nid wrth weud nad yw Georgia yn dîm sy’n chwarae’n agored, ond mae’r amodau yn Paarl yn anodd o dan draed gyda’r bel yn seimllyd ar adegau felly yn anodd i symud y bel i’r gwagle. Bydd y cae yn fwy lydan, yn sychach gyda’r tywydd i ddisgwyl yn well hefyd. Rwy’n credu fydd Awstralia yn edrych i symud y bel i’r asgell yn fwy na’ Georgia ac felly yn farparu her gwahanol. Rwy’n hyderus os allwn gael yr amddiffyn yn gywir fel y gwnaethon yn erbyn Georgia, fe allwn lwyddo.”

Cymru D20 v Awstralia D20, Dydd Gwener 14 Gorffennaf, Athlone Stadium, CG 1yp (UK), S4C live
15 Harri Houston (Ospreys); 14 Tom Florence (Ospreys), 13 Louie Hennessey (Bath Rugby), 12 Bryn Bradley (Harlequins) , 11 Llien Morgan (Ospreys); 10 Dan Edwards (Ospreys), 9 Archie Hughes (Scarlets); 1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dragons RFC), 2 Lewis Lloyd (Ospreys), 3 Kian Hire (Ospreys), 4 Evan Hill (Ospreys), 5 Jonny Green (Harlequins), 6 Ryan Woodman (Dragons RFC – Capt), 7 Lucas De La Rua (Cardiff Rugby), 8 Morgan Morse (Ospreys).

Eilyddion: 16 Lewis Morgan (Scarlets), 17 Louis Fletcher (Ospreys), 18 Tom Pritchard (Cardiff Met), 19 Mackenzie Martin (Cardiff Rugby), 20 Gwilym Evans (Cardiff Rugby), 21 Joe Westwood (Dragons RFC), 22 Harri Wilde (Cardiff Rugby), 23 Harri Williams (Ampthill).