Mewnwr y Scarlets Archie Hughes serennodd yn ystod buddgoliaeth 41-19 Cymru D20 yn erbyn Japan yn ystod yr ail gêm o Bencampwriaeth y Byd D20 yn Stadiwm Danie Craven yn Stellenbosch, gan dderbyn wobr chwaraewr y gêm.
Rasiodd Hughes dros y llinell am gais cynnar ac fe gynorthwyodd tîm Mark Jones trwy gydol yr amodau heriol i gipio buddugoliaeth pwynt bonws.
Dywedodd y chwaraewr o Ddinbych y Pysgod: “Roedd yna camgymeriadau ar adegau, cwpl o gamgymeriadau wedi caniatau iddyn nhw i ddod i mewn i’r gêm ac i fod yn deg iddyn nhw, fe godon nhw’r pwysau yn yr amddiffyn. Pob clod i Japan am wneud hynny, ond fe wnaeth y bois dangos eu cymeriad i aros yn y frwydr a dod bant gyda’r fuddugoliaeth.”
Yn ymateb i’w wobr Chwraewr y Gêm, ychwanegodd Hughes: “Hapus iawn. Roedd pob un o’r bois wedi rhoi eu gorau glas ac fe all sawl un ohonyn nhw ennill y wobr yma. Rydym wedi dangos ein bod gallu sgori cwpl o geisiau da, yn wrth troi’r bel drosodd, sydd yn rhywbeth rydym wedi gweithio ar, ond rydym yn bles iawn i ddod bant yn fuddugol.”
Nesaf i dîm Cymru mae’r her o wynebu’r pencampwyr presennol Ffrainc, sydd wedi curo timau Japan a Seland Newydd.
Dywedodd Hughes: “Mi fydd hi’n gêm heriol iawn, ac yn un corfforol, mae rhaid i ni sicrhau ein bod yn barod i frwydro am y gêm hynny.”