Archie i ddechrau i Gymru D20 yn erbyn Japan

Rob LloydNewyddion

Y mewnwr Archie Hughes sydd wedi’i enwi yn nhîm Cymru i wynebu Japan yn yr ail rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Byd D20 ar Ddydd Iau.

Bydd Hughes yn cychwyn yng nghrys rhif 9 yn dilyn ymddangosiad arbennig yn ystod y gêm yn erbyn Seland Newydd penwythnos diwethaf. Y prop Josh Morse sydd wedi’i enwi ar y fainc eto, wrth ochr Harri Williams sydd i ymuno â Ampthill yn y tymor newydd.

Yr unig newidiadau i’r ochr i ddod o’r blaenwyr gyda’r prop pen tynn Louis Fletcher a’r clo Evan Hill yn dod i mewn i’r tîm.

Collodd Cymru o un pwynt yn erbyn y Baby Blacks yn y gêm agoriadol o 27-26.

Cymru D20 v Japan D20, Dydd Iau 29 Mehefin, Danie Craven Stadium, KO 1yp (DU), yn fyw ar S4C

15 Cameron Winnett (Cardiff Rugby); 14 Llien Morgan (Ospreys), 13 Louie Hennessey (Bath Rugby), 12 Bryn Bradley (Harlequins), 11 Harri Houston (Ospreys); 10 Dan Edwards (Ospreys), 9 Archie Hughes (Scarlets); 1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dragons), 2 Lewis Lloyd (Ospreys), 3 Louis Fletcher (Ospreys), 4 Evan Hill (Ospreys), 5 Jonny Green (Harlequins), 6 Ryan Woodman (Dragons – Capt), 7 Lucas De La Rus (Cardiff Rugby), 8 Morgan Morse (Ospreys)

Eilyddion: 16 Sam Scarfe (Dragons), 17 Josh Morse (Scarlets), 18 Kian Hire (Ospreys), 19 Mackenzie Martin (Cardiff Rugby), 20 Seb Driscoll (Harlequins), 21 Tom Florence (Ospreys), 22 Harri Wilde (Cardiff Rugby), 23 Harri Williams (Scarlets).