Arwr y Scarlets Derek Quinnell wedi’i enwi fel Llywydd newydd i’r Scarlets

GwenanNewyddion

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi mai Derek Quinnell sydd wedi’i apwyntio fel Llywydd newydd y clwb.

Mae Quinnell yn llenwi’r rôl ei ffrind a chyn cyd-chwaraewr Phil Bennett, a bu farw llynedd.

Yn wythwr a chlo pwerus, ymddangosodd Quinnell 369 o weithiau i Lanelli rhwng 1967 a 1982. Roedd yn aelod o’r garfan a gurodd y Crysau Duon yn 1972 ym Mharc y Strade ac roedd yn gapten ar y clwb am dymor 1979-1980. Mae ei dri mab, Scott, Craig a Gavin, i gyd wedi dilyn ei lwybr gan gynrychioli’r Scarlets ar sawl achlysur.

Wedi’i gapio 23 o weithiau i Gymru fe deithiodd gyda’r Llewod ar dair taith, gan gynnwys Seland Newydd yn 1971, lle’r oedd yr unig chwaraewr di-gap i fod yn rhan o’r garfan.

Dywedodd Cadeirydd y Scarlets Simon Muderack: “Mae Derek yn arwr o’r clwb ac yn ddyn uchel ei barch yn y gêm. Mae’n addas iawn iddo i ddilyn ei ffrind Phil Bennett i lenwi’r rôl.

“Bydd sawl her i’w wynebu o fewn rygbi Cymru a’r byd rygbi, ond wrth i ni symud ymlaen fel clwb gydag arweiniad cryf a chwblhau’r dathliadau 150 o flynyddoedd, rydym yn croesawu Derek i’r bwrdd i gryfhau ein cysylltiadau gyda’n cymunedau, etifeddiaeth a phwrpas.”

Dywedodd Derek Quinnell: “Roedd hi’n fraint i gymryd yr awenau oddi wrth Grav 15 mlynedd yn ôl fel Llywydd i Glwb Rygbi Llanelli ac mae’n fraint eto i gymryd yr awenau wrth chwaraewr a dyn da fel Benny, a oedd yn Lywydd i’r Scarlets am 11 mlynedd.

“Mae’r Scarlets yn rhan enfawr o’r gymuned yma yng Ngorllewin Cymru ac wrth newydd ddathlu 150 mlynedd ers sefydliad Clwb Rygbi Llanelli rydym am gadw’r gwerthoedd cymunedol a theuluol yn agos at y clwb.

“Mae’r cyfnod diwethaf wedi bod yn heriol i rygbi yng Nghymru, ar ac oddi ar y cae, ond roedd perfformiadau’r tîm yn y Cwpan Her dros y tymor diwethaf yn arbennig gyda nosweithu cofiadwy i’w weld ym Mharc y Scarlets ac roedd hi’n wych i weld angerdd ein cefnogwyr dros y cyfnod.

“Gyda Dwayne yn adeiladu carfan gyffrous ac ifanc, gobeithiwn fydd mwy o achlysuron fel hyn i ddod yn y tymor, gan ddechrau gyda gêm arbennig yn erbyn y Barbariaid ym mis Medi.”