Barbariaid yn enwi’r tîm i wynebu’r Scarlets

Rob LloydNewyddion

Ryan Lonergan sydd yn gapten ar tîm y Barbariaid i herio’r Scarlets ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Sadwrn (14:30).

Yn bartner i Lonergan mae’r chwaraewr rhyngwladol i Awstralia James O’Connor yn nhîm sydd yn dangos 12 chwaraewr rhyngwladol o Awstralia neu Japan.

Mae llawer o’r garfan yn aros am alwad ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc ac wedi dangos perfformiadau arbennig mor belled, gan guro Northampton Saints (48-12) a Bristol Bears (52-26).

Cyn-chwaraewyr y Scarlets Rob Evans ac Aaron Shingler sydd wedi’u henwi ymysg yr eilyddion.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae’r Barbariaid wedi cael rhediad da yn erbyn Northampton a Bryste wythnos diwethaf. Mi fyddant yn her enfawr, mae ganddyn nhw chwaraewyr o safon uchel gyda’i llygaid ar alwad i Gwpan y Byd.

“Ganddyn nhw carfan hyfforddi cryf felly bydd hi’n sialens da i ni i ddechrau gyda.”

Barbarian FC v Scarlets 

15. Ryohey Yamanaka (Japan, Kobelco Steelers); 14. Lachie Anderson (Australia, Rebels), 13. Filipo Daugunu (Australia, Queensland Reds), 12. Nicholas McCurran (Toshiba Brave), 11. Dylan Pietsch (Australia 7s, Waratahs); 10 James O’Connor (Australia, Queensland Reds), 9. Ryan Lonergan (C) (Australia, ACT Brumbies); 1. Kenta Kobayashi (Japan, Suntory Sungoliath), 2. Lachlan Lonergan (Australia, ACT Brumbies), 3. Sam Talakai (Australia, Melborne Rebels), 4. Josh Canham (Rebels), 5. Uwe Helu (Japan, Kubota Spears), 6. Lachlan Swinton (Australia, NSW Waratahs), 7. Faulua Makisi (Japan, Kubota Spears), 8. Harry Wilson (Australia, Queensland Reds).

Eilyddion: 16. Shunta Nakamura (Suntory Sungoliath), 17. Rob Evans (Wales, Haverfordwest), 18. Harry Johnson-Holmes (Australia, NSW Waratahs), 19. Cadeyrn Neville (Australia, ACT Brumbies). 20. Aaron Shingler (Wales, Yr Hendy), 21. Seru Uru (Queensland Reds), 22. Kaito Shigeno (Japan, Sunwolves), 23. James Tuttle (Melborne Rebels), 24. Tom Wright (Australia, ACT Brumbies), 25. Taichi Takahashi (Japan, Toyota Verblitz), 26. Tom Lambert (Waratahs).