Gyda thristwch mae glywed am farwolaeth un o goreuon mwyaf rygbi Barry John, a bu farw yn 79 oed.
Yn eicon o’r byd rygbi, cafodd Barry y llysenw “Y Brenin” yn dilyn ei berfformiadau llwyddiannus yng nghrys coch Cymru a’r Llewod.
Wedi’i eni yng Nghefneithin yng Nghwm Gwendraeth, aeth Barry i’r Ysgol Ramadeg a Choleg y Drindod, Caerfyrddin, wrth chwarae ei rygbi ieuenctid i’w glwb cartref ym Mhontyberem.
Ymddangosodd i Lanelli am y tro cyntaf yn 18 oed yn erbyn Birmingham Moseley yn 1964 ac aeth ymlaen i ymddangos 87 o weithiau i’r clwb, gan sgori 210 o bwyntiau, gan gynnwys 17 o geisiau a 36 gôl adlam.
Chwaraeodd i’r Scarlets yn erbyn y Barbariaid yn 1965 ac oedd yn safle’r maswr am y fuddugoliaeth 11-0 yn erbyn Awstralia ym Mharc y Scarlets yn 1967, gan sgori cais a gôl adlam i gipio’r fuddugoliaeth o’r ymwelwyr.
Ymunodd â Chlwb Rygbi Caerdydd yn 1967 a chwaraeodd 25 o gemau i Gymru a pump i’r Llewod, wrth serennu yn y fuddugoliaeth hanesyddol 2-1 yn erbyn y Crysau Duon yn 1971. Cyhoeddodd ei ymddeoliad blwyddyn yn ddiweddarach yn 27 oed.
Mae Barry yn frawd yng nghyfraith i lywydd y clwb Derek Quinnell ac mae ein meddyliau gyda’r teulu yn ystod yr amser trist yma.