Black Lion o Georgia wedi’i enwi ym mhwll Cwpan Her Scarlets

Rob LloydNewyddion

Black Lion ydy’r tîm gwahoeddig wedi’i gynnwys ym mhwll y Scarlets am dymor 2023-24 o Gwpan Her EPCR.

Bydd Black Lion yn chwarae eu gemau gartref yn Tbilisi ac yn herio’r Scarlets, ASM Clermont Auvergne, Castres Olympique a Chaerloyw ym Mhwll 3.

Mae’r ochr De Affrig Toyota Cheetahs hefyd wedi derbyn gwahoddiad i gystadlu yn rhan o Bwll 1 lle fyddant yn herio Oyonnax Rugby, Section Paloise, Cell C Sharks a Zebre Rugby ym Mhwll 1 gyda Amsterdam yn yr Iseldiroedd fel ei ‘cartref’ yn erbyn eu gwrthwynebwyr Ewropeaidd. Mae’r gemau pwll yn erbyn y Cell C Sharks i’w gynnal yn naill Bloemfontein neu Durban yn ddibynol ar canlyniad y broses trefnu gemau.

Dywedodd cadeirydd EPCR, Dominic McKay: “Mae cynnwys Black Lion yn yn y gystadleuaeth yn adlweyrchu y ymrwymiad rydym wedi gwneud i ymestyn y scope o’r twrnamaint ac i arrdangos talent newydd i gefnogwyr byd-eang. Mae’r Toyota Cheetahs yn barod wedi ehangu’r gystadleuaeth gyda’u perfformiad tymor diwethaf, ac rydym yn hyderus bydd Black Lion yn codi’r dwyster yn fwy.”

Dywedodd llywydd Rygbi Georgia, Ioseb Tkemaladze: “Mae hyn yn bwysig iawn i rygbi Georgia ac i’r wlad. Rydym wedi gweithio’n galed i gael y cyfle – ar y cae a tu ôl i’r llenni am sawl flwyddyn. Rydym yn ddiolchgar iawn i EPCR am y cyfle i ddatblygu’r gêm ymhellach ar lefel byd-eang. Hoffwn rhannu diolch personol i Dominic McKat a’i dîm am yr holl wait caled a’r cefnogaeth.”

Cafodd dau glwb eu gwahodd i gystadlu yn dilyn proses lle derbyniwyd EPCR diddordeb wrth glybiau ar draws Ewrop, gan gynnwys cais wrth Tel Aviv Heat, clwb proffesiynol cyntaf Israel, sydd wedi dangos perfformiadau cryf yn Nghwpan Rugby Europe Super Cup.

Bydd EPCR yn parhau i gysylltu â Rugby Europe i drafod manylion i ddod.

Manylion llawn o’r holl gemau wedi’u trefnu am dymor 2023-24 Cwpan Her EPCR a Chwpan Pencampwyr i’w gyhoeddi maes o law, gyda’r twrnamaint i’w gychwyn ar benwythnos Rhagfyr 8-10.