Blade yn arwyddo cytundeb newydd

Rob Lloyd Newyddion

Mae Blade Thomson wedi arwyddo cytundeb newydd i aros ym Mharc y Scarlets.

Cyrhaeddodd y chwaraewr rheng ôl, sydd wedi’i gapio 10 o weithiau i’r Alban, yn Llanelli o’r tîm Super Rugby Hurricanes yn 2018.

Gyda 31 o ymddangosiadau, cafodd galwad i dîm Gregor Townsend i fod yn rhan o garfan yr Alban.

Ymddangosodd Blade i’r Alban yng Nghwpan y Byd 2019 yn Siapan ac wedi gwneud sawl perfformiad nodedig i’r Scarlets y tymor yma.

“Mae’n wych bod Blade wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets,” dywedodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney.

“Mae Blade yn athletwr go iawn, yn chwaraewr sydd yn gallu creu cyfleoedd fel dangosodd yn ystod y gêm darbi yn erbyn y Gweilch dros y Nadolig.

“Profwyd ei hun gyda charfan yr Alban, ac mae ganddo lawer o frodiad Super Rugby ac wedi datblygu i mewn aelod pwysig a dylanwadol o’n carfan”

Yn sylw ar ei gytundeb newydd, dywedodd Blade, 30: “Dw i wrth fy modd i arwyddo cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

“Ers i mi a fy nheulu gyrraedd rydym wedi derbyn croeso mawr gan bawb yn y Scarlets, fy nghyd-chwaraewyr, staff a chefnogwyr.

“Mae wedi bod yn dymor anodd am sawl rheswm, ond mae ansawdd da o rygbi ymysg y garfan – chwaraewyr profiadol a chwaraewyr ifanc talentog sydd wedi camu i fyny a gadael eu marc.

“Rwy’n edrych ymlaen at beth sydd gan y grwp yma i roi dros y blynyddoedd i ddod.”

Blade ydy’r chwaraewr diweddaraf i ail-arwyddo cytundeb i’r Scarlets, gan ddilyn Wyn Jones, Aaron Shingler a Ryan Elias.

Chwaraewyr talentog ifanc megis Carwyn Tuipulotu a Morgan Jones hefyd wedi cytuno cytundebau newydd, ynghyd Javan Sebastian.

Bydd cytundebau newydd yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.