Blaenwr talentog Caleb Salmon yn arwyddo i Academi’r Scarlets

Gwenan Newyddion, Newyddion yr Academi

Mae’r Scarlets wedi arwyddo blaenwr 18 oed Caleb Salmon i’r Academi

Mae Caleb, sydd yn gallu chwarae fel clo neu yn y rheng ôl, yn gynnyrch o Glwb Rygbi Hwlffordd ac Abergwaun.

Mae’n gyn-ddisgybl o Haverfordwest VC High School a Choleg Sir Benfro ac mae nawr yn fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gar.

Dywedodd hyfforddwr sgiliau’r Academi Emyr Phillips: “Mae Caleb yn aelod cyffroes o’r Academi sydd gyda’r gallu i chwarae yn yr ail reng neu’r rheng ôl.

“Mae ganddo sgiliau ardderchog o ran safle gosod, mae’n fygythiad gydag neu heb y bel ac mae ei sgiliau dadlwytho yn arbennig.

“Safodd allan wrth chwarae i dîm d16 Gorllewin Scarlets ac rydym wedi dilyn Caleb ers hynny ac mae wedi gadael argraff dda ers dod i mewn yn llawn amser.

“Teimlwn fod ganddo lawer o ddatblygiad ynddo ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn ôl ar y cae chwarae yn fuan.”