Brive yn arwyddo ail-reng y Scarlets ‘Tex’ Ratuva

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Tevita Ratuva, ail-reng y Scarlets, yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor i ymuno â’r clwb Ffrengig Brive.

Yn aelod o garfan Fiji yn ystod Cwpan y Byd 2019, ymunodd â’r Scarlets ar ôl y bencampwriaeth ac mae nawr yn ei ail dymor yn Llanelli.

“Derbyniodd Tex cynnig i ymuno â chlwb Brive yn Ffrainc ac rydym yn dymuno’r gorau iddo ar y bennod nesaf o’i yrfa” dywedodd rheolwr cyffredinol rygbi y Scarlets Jon Daniels.