“Byddaf yn rhoi popeth posib,” medd Williams

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd canolwr y Scarlets a Chymru Scott Williams yn chwarae ei gêm olaf yng nghrys y Scarlets ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn pan fydd y rhanbarth yn croesawu’r Cheetahs yn rownd go-gyn derfynol Guinness PRO14.

Dyma fydd gêm gartref olaf y rhanbarth hefyd gyda’r Scarlets yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth er mwyn symud ymlaen i’r rownd gyn derfynol y bencampwriaeth.

Wrth edrych ymlaen i’r penwythnos dywedodd Williams; “Roedd yn deimlad rhyfedd yn erbyn Glasgow. Roeddwn i’n siwr yn fy meddwl y byddai un gêm arall yma ym Mharc y Scarlets. Fe wnaethon ni lwyddo sicrhau gêm gartref yn y gêm go-gyn derfynol ac rwy’n edrych ymlaen at y penwythnos. Ry’n ni’n mawr obeithio y gewn ni doref tebyg i’r un a welwyd yn erbyn La Rochelle.

“Ry’n ni wedi cael cefnogaeth arbennig y tymor hwn, y gefnogaeth orau ers i ni symud i Barc y Scarlets. Roedd yn bwysig iawn i ni sicrhau gêm gartref. Mae’n record ni yma yn dda iawn ac mae timau’n ei chael hi’n anodd iawn dod yma ac ennill.”

Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa gyda’r rhanbarth dywedodd Williams; “Mae yna llond lle o uchafbwyntiau, rwyf wedi bod yma ers cyfnod hir. Fe fydd yn emosiynol ar y penwythnos ond rwy’n mynd i fynd mas i’r cae a rhoi pob peth posib.

“Ni yw’r pencampwyr presennol, ry’n ni eisua ennill eto eleni. Fe newn ni bopeth y gallwn ni i ennill unwaith eto.”

Mae tocynnau Scarlets v Cheetahs ar gael nawr, cliciwch yma i’w prynu. Ymunwch â ni yn y Parc i ffarwelio â Scott ac eraill.

Scarlets v Cheetahs, Sadwrn 5ed Mai, cic gyntaf 18:35