Cadarnhau’r prif hyfforddwr newydd

Menna Isaac Newyddion

Mae’r Scarlets yn falch iawn cadarnhau y bydd Brad Mooar o’r Crusaders yn cymryd yr awennau fel prif hyfforddwr pan fydd Wayne Pivac yn ymadael i ymuno â Chymru.

Fe fydd yr hyfforddwr 44 mlwydd oed yn ymuno â’r rhanbarth o’r tîm llwyddiannus yn Super Rugby, y Crusaders.

Daw Mooar â llond lle o brofiad hyfforddi wedi gweithio fel is-hyfforddwr gyda’r Crusaders dros y tri tymor diwethaf, fel prif hyfforddwr gyda’r Southland Stags yng Nghwpan mitre10 yn ogystal a gweithio fel hyfforddwr ymosod yr Eastern Province Kings a’r Southern Kings yn Ne Affrica. Ni gollodd yr Eastern Province Kings gêm wrth ennill pencampwriaeth Currie Cup yn ystod cyfnod Mooar.

Mae’r hyfforddwr profiadol yn arwain ar waith ymosod a strategaeth y Crusaders. Oddi ar y cae rygbi mae Mooar yn gyfreithiwr cymwysedig a gafodd ei dderbyn i Uwch Lys Seland Newydd ym 1997. Mae’n adnabyddus am ei sgiliau ysbrydoledig a reoli arbennig.

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets; “Yn dilyn gwaith ymchwil trwyadl ry’n ni’n falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i arwyddo Brad. Fel rhan o’r broses recriwtio ry’n ni wedi derbyn geirda amrywiol ar yr ymgeiswyr a’r hyn ddaeth yn amlwg am Brad yw ei fod yn un o’r hyfforddwyr ifanc gorau yn Seland Newydd a bod dyfodol disglair o’i flaen.

“Ry’n ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod ein proses recriwtio nid yn unig yn dewis yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr gorau i berfformio ar y cae rygbi ond hefyd yn cyfrannu i ethos ac amgylchedd y clwb a’r gymuned yn ehangach. Mae steil arweiniol, personoliaeth ac ethos Brad yn union yr hyn redden ni’n chwilio amdano mewn prif hyfforddwr.

“Mae Brad wedi bod yn is-hyfforddwr gyda’r Crusaders dros y tair blynedd diwethaf ac wedi cynorthwyo’r tîm i dlws Super Rugby dwy flynedd yn olynnol. Mae gan Brad ddealltwriaeth o’r hyn sydd angen i fod yn llwyddiannus ac i greu hunaniaeth buddugol.

“Trwy gydol y broses mae Brad wedi creu argraff yn dilyn ei ddealltwriaeth o le’r Scarlets yn y gymuned, ei angerdd dros ddatblygu chwaraewyr a’r gwaith ymchwil roedd ef wedi ei wneud ar ein hunaniaeth.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Brad a’r teulu i Orllewin Cymry. Ry’n ni’n gyffrous at y dyfodol ond mae gyda ni phob peth i chwarae amdano y tymor hwn ac fe fydd hynny’n parhau yn brif ffocws.”

Ychwanegodd Brad Mooar; “Roedd cael y cyfle i gymryd y rôl fel Prif Hyfforddwr y Scarlets yn rhy dda i’w golli ac mae’n her gyffrous i fi ac yn gyfle arbennig i’r teulu i broif bywyd ochr arall y byd.

“Mae’r Scarlets yn adnabyddus ar draws y byd, mae’n glwb buddugol gyda threftadaeth balch, cefnogwyr angerddol ac yn uchelgeisiol. Mae’n anrhydedd cael y cyfle i arwain yn dilyn gwaith arbennig Wayne Pivac wrth iddo symud ymlaen i hyfforddi Cymru.

“Yn ogystal â safon y Scarlets ar y cae, gyda charfan talentog â chanran uchel o chwaraewyr lleol, mae’r clwb yn cynrychioli’r gymuned yn ehangach gydag angerdd ac ymroddiad. Mae fy nheulu a minnau yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gymuned a setlo yng Ngorllewin Cymru.”

Datblygodd Mooar trwy graddau oed Canterbury fel maswr gan gyrraedd lefel B Canterbury. Chwaraeodd i Mid-Canterbury o 1997-1999 a chwaraeodd dramor cyn dychwelyd i Christchurch i ddechrau ar ei waith fel hyfforddwr.

Cafodd ei rôl hyfforddi cyntaf gyda Christchurch Colts ac yna brif tîm y clwb o 2007 i 2011.

Yn 2012 fe symudodd i Dde Affrica i hyfforddi’r EP Kings ac yna symudodd i fod yn is-hyfforddwr y Southern Kings o dan arweiniad Matt Sexton.

Dychwelodd i Seland Newydd i gymryd rôl Prif Hyfforddwr a Chyfarwyddwr Rygbi yn Southland.