Mae Undeb Pêl-droed Rygbi Iwerddon (IRFU) ac Undeb Rygbi Cymru (WRU) wedi ymuno i greu cystadleuaeth ddatblygu newydd – Y Cwpan Celtaidd – ar gyfer y chwaraewyr proffesiynol sy’n dod i’r amlwg o bedair talaith Iwerddon a phedwar rhanbarth Cymru.
Nod y gystadleuaeth sy’n cynnwys carfanau datblygu o Connacht, Leinster, Munster, Ulster, Gleision, Dreigiau, Scarlets a’r Gweilch yw darparu amgylchedd dysgu i chwaraewyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr trwy ail-greu’r heriau wythnos i wythnos a gyflwynir gan rygbi proffesiynol hŷn.
Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg dros saith wythnos yn olynol gan ddechrau ar 7 Medi. Bydd yn rhaid i dimau baratoi ar gyfer gwrthwynebiad gwahanol bob wythnos, rheoli eu paratoad a’u hadferiad corfforol a dadansoddi eu perfformiadau wrth iddynt dyfu fel unigolion ac ar y cyd.
Fformat y Gystadleuaeth:
Rhennir yr wyth tîm yn ddwy gynhadledd o bedwar rhanbarth Cymru a phedair talaith yn Iwerddon. Bydd pob talaith Wyddelig yn chwarae pob un o ranbarthau Cymru ac yn chwarae yn erbyn dwy dalaith Wyddelig. Yn yr un modd bydd rhanbarthau Cymru yn chwarae pob un o daleithiau Iwerddon ac yn chwarae dau o’u cymheiriaid yng Nghymru. Bydd y Dalaith sydd ar y brig o gynhadledd Iwerddon yn chwarae’r Rhanbarth uchaf yn y gynhadledd yng Nghymru yn y rownd derfynol agoriadol (lleoliad tbc).
Dywedodd David Nucifora, Cyfarwyddwr Perfformiad IRFU, “Bydd y Cwpan Celtaidd yn dod â gwerth sylweddol i ddatblygiad ein chwaraewyr proffesiynol, dyfarnwyr a hyfforddwyr a staff cymorth sy’n dod i’r amlwg. Bydd yn eu herio i berfformio a rheoli eu hunain o fewn strwythur cystadlu proffesiynol trwy gydol ymgyrch wythnos i wythnos debyg i’r Guinness Pro14.
“Mae’r Cwpan Celtaidd hefyd yn gyfrwng gwych ar gyfer datblygu ein haen nesaf o hyfforddwyr a fydd yn gorfod cymryd y dysgu o gemau bob wythnos i yrru perfformiad ar draws y gystadleuaeth.”
Ychwanegodd Pennaeth Perfformiad Rygbi WRU, Geraint John, “Rydym yn gyffrous am y datblygiad newydd hwn ar gyfer y llwybr perfformio yng Nghymru.
“Bydd y Cwpan Celtaidd yn helpu i ddatblygu chwaraewyr yn uwch weithwyr proffesiynol tra hefyd yn hyrwyddo a gwella hyfforddwyr Cymru a staff perfformiad eraill fel hyfforddwyr cryfder a chyflyru, dadansoddwyr a dyfarnwyr.
“Bydd y rhaglen bloc o gemau yn helpu pawb sy’n cymryd rhan yn fawr i adeiladu wythnos i wythnos mewn amgylchedd proffesiynol a strwythur cystadlu, gan helpu i danategu datblygiad chwaraewyr rhanbarthol a rhyngwladol y dyfodol.”
DIWEDD
Gwybodaeth Ychwanegol:
Pwll 1
Connacht
Leinster
Munster
Ulster
Pwll 2
Gleision Caerdydd
Y Dreigiau
Y Gweilch
Scarlets
Gemau
Penwythnos 1 – Medi 7
Munster v Connacht
Ulster v Leinster
Gweilch v Scarlets
Dreigiau v Gleision
Penwythnos 2 – Medi 14.15.16
Leinster v Gleision Caerdydd
Gweilch v Munster
Ulster v Scarlets
Dreigiau v Connacht
Penwythnos 3 – Medi 21,22,23
Scarlets v Leinster
Munster v Dreigiau
Gleision Caerdydd v Ulster
Connacht v Gweilch
Penwythnos 4 – Medi 28.29.30
Leinster v Gweilch
Gleision Caerdydd v Munster
Ulster v Dreigiau
Scarlets v Connacht
Penwythnos 5 – Hydref 5,6,7
Dreigiau v Leinster
Munster v Scarlets
Gweilch v Ulster
Connacht v Gleison Caerdydd
Penwythnos 6 – Hydref 12,13,14
Leinster v Munster
Connacht v Ulster
Gleision Caerdydd v Gweilch
Scarlets v Dreigiau