Enw rydym wedi clywed llawer ohono dros y misoedd diwethaf, Carwyn Tuipulotu, wedi arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf ac yn arwyddo gyda’r Scarlets am bedair blynedd.
Mae’r chwaraewr 19 mlwydd oed wedi creu argraff dda iawn y tymor yma ar ôl iddo ddod oddi’r fainc yn ystod gem Leinster i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Guinness PRO14.
Roedd ei dad Kati Tuipulotu wedi cynrychioli Tonga, a chafodd Carwyn ei addysgu yn ysgol Sedbergh yn Cumbria cyn iddo ymuno ac Academi’r Scarlets o Newcastle Falcons dau dymor yn ôl.
Ar hyn o bryd mae Carwyn yn rhan o garfan Chwe Gwlad Cymru d20 ar ôl iddo gael ei gapiau cyntaf i Gymru wrth gynrychioli’r timoedd D16 a D18.
Mae hefyd yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio athroniaeth ac yn cyfuno ei astudiaethau wrth ochr ei yrfa broffesiynol.
“Dw i wrth fy modd i arwyddo cytundeb yma gyda’r Scarlets,” dywedodd.
“Dw i wedi setlo’n dda yma ac yn teimlo’n gartrefol iawn. Mae nifer o’r chwaraewyr hyn wedi fy helpu i ac fel brodyr i mi. Rwy’n dysgu llawer o bethau wrthyn nhw ac o’u profiadau er mwyn gwella fy natblygiad.
“Mwynheais fy nghyfle cyntaf yn y PRO14 yn erbyn un o’r ochrau gorau yn y gystadleuaeth a gobeithio dyna’r dechrau o beth sydd i ddod.
“Rwy’n parhau i weithio’n galed a dysgu yn ystod ymarferion. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth allaf gyflawni yn y dyfodol gyda’r Scarlets.”
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Yn amlwg mae Carwyn yn ddyn ifanc gyda dyfodol disglair o’i flaen ac rydym yn falch iawn ei fod wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda’r rhanbarth.
“Yn gorfforol, mae Carwyn yn ased cryf i ni ac rydym yn teimlo cyfrifoldeb mawr i sicrhau’r cyfleoedd gorau i’w datblygiad. Rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud y pethau iawn o’i safbwynt ef, er mwyn galluogi’r datblygiad gorau iddo.
“Ein bwriad pan ddaeth Sione i’r clwb oedd i Carwyn ei weld fel mentor, a dysgu wrth chwaraewr sydd yn deall sut i ymarfer a sut i fod yn broffesiynol.
“Mae Carwyn yn barod wedi derbyn blas o rygbi gyda’r garfan hyn, ac rwy’n siŵr mae cefnogwyr y Scarlets yn edrych ymlaen at weld beth sydd ganddo i gynnig dros y tymhorau nesaf.”