Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, rydym yn falch i gadarnhau byddwn yn croesawu cefnogwyr nôl, at gapasiti cyfyngedig, i Barc y Scarlets am ein gêm ddiwethaf yng Nghwpan yr Enfys ar ddydd Sul, Mehefin 13 yn erbyn Caeredin.
Rydym yn gweithio ar fanylion pellach ynglŷn â thocynnau a phrotocolau presenoldeb ar hyn o bryd. Bydd diweddariadau pellach i ddilyn yn fuan.