Cell C Sharks v Scarlets wedi’i ohirio

Rob Lloyd Newyddion

Oherwydd datblygiadau sydyn yn gysylltiedig â’r straen newydd COVID-19 (B.1.1.529) sydd wedi rhoi De Affrica ar rhestr goch teithio’r DU ac Ewrop, mae’r gemau Rowndiau 6 a 7 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig oedd wedi’u trefnu yn Ne Affrica dros y ddau penwythnos nesaf wedi’u gohirio ac yn cael eu haildrefnu yn hwyrach yn y tymor.

Iechyd a diogelwch chwaraewyr, hyfforddwyr a staff ein clybiau yn y bencampwrieth ydy ein blaenoriaeth ac mae’r URC yn gweithio’n agos gyda’r pedwar clwb – Rygbi Caerdydd, Munster Rugby, Scarlets a Zebre Rugby – ar hyn o bryd er mwyn trefnu eu dychweliad mor gynted ag sy’n bosib.

Mae’r penderfyniad wedi’i seilio ar y cyngor diweddaraf yn erbyn teithio an-hanfodol i ac oddi’r De Affrig, y gwaharddiad o hediadau i’r DU a chyrchfannau eraill gyda rheiny sy’n dychwelyd o Dde Affrica yn gorfod hunan ynysu mewn gwesty.

Bydd y URC yn parhau i weithio gyda’n Grwp Cynghori Meddygol, ein cyfrandalwyr undeb a llywodraethau i gynllunio gan ddilyn y canllawiau iechyd diweddaraf.

Bydd yna cyfnod o asesu nawr er mwyn deall yr effaith o’r cyfyngiadau teithio yma a sut i aildrefnu’r gemau yma o fewn y tymor presennol. Byddwn yn darparu’r newyddion diweddaraf trwy sianeli swyddogol yn unig.